Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Taliad gofal cymdeithasol ychwanegol yn cyd-fynd â chyflog byw gwirioneddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £43m yn y Gyllideb heddiw i droi cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gofal cymdeithasol yn realiti o fis Ebrill ymlaen.

Mae taliad ychwanegol i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n gymwys ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol wedi cael ei gyhoeddi hefyd a bydd £1,000 arall yn cael ei ychwanegu i becynnau cyflog.

Bydd y taliad hwn, a fydd yn cael ei roi i oddeutu 53,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru, yn cael i reoli gan awdurdodau lleol.

Bydd y tâl ychwanegol yn cael ei roi i uwch staff gofal a rheolwyr mewn cartrefi gofal a gofal yn y cartref hefyd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS: "Rydw i'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflawni ein hymrwymiad allweddol a chyflwyno cyflog byw gwirioneddol i ofal cymdeithasol - gan roi codiad cyflog sydd wir ei angen i ddegau o filoedd o bobl wrth inni wynebu un o'r argyfyngau costau byw gwaethaf.

"Rydw i'n gobeithio y bydd y taliad ychwanegol hwn, ynghyd â'r cyflog byw gwirioneddol, o gymorth inni fynd i'r afael â rhai o'r heriau gwirioneddol mae darparwyr yn eu profi wrth recriwtio a chynnal pobl sydd â'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'r rolau hanfodol hyn.

"Rydym eisiau gweld rhagor o bobl yn cymryd swyddi parhaol mewn gofal cymdeithasol a dechrau gyrfa werth chweil. Oherwydd hyn, ni fydd y taliad yn cael ei wneud i staff asiantaeth.

“Rydym eisiau i'r bobl hynny sy'n ystyried neu wedi gadael gofal cymdeithasol, i ail feddwl.”                                                                                                        

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y taliad ychwanegol a'r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei brosesu yng nghyflog pobl rhwng Ebrill a Mehefin.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol yn ariannol. Fe fydd yr ychwanegiad hwn i becynnau cyflog yn cael ei groesawu'n fawr yn enwedig wrth i gostau byw barhau i godi ar draws y wlad.

Nid yw'n gyfrinach fod pwysau eithafol y pandemig yr ydym yn parhau i weithio â nhw yn cael effaith sylweddol ar recriwtio i'r sector gofal cymdeithasol.

Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn weithiwr gofal cymdeithasol neu a fyddai'n hoffi gwybod mwy, i ymgysylltu â'r ymgyrch hybu recriwtio sy'n digwydd.

Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Mae digwyddiad gofal cymdeithasol yn cael ei gynnal ar 18 Chwefror yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr lle bydd cynrychiolwyr o dîm recriwtio'r awdurdod lleol, gwasanaethau cymdeithasol Plant ac Oedolion a Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wrth law i fod o gymorth ichi gyda gwybodaeth am gyfleoedd yn y maes gofal cymdeithasol.

Does dim angen archebu lle a chroesewir ymholiadau gan bobl nad ydynt yn gyrru. Os na allwch chi ymuno â ni ar y diwrnod, gallwch anfon e-bost atom i recruitment@bridgend.gov.uk neu ymweld â'r wefan.

Gellir dod o hyd i restr lawn o swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar wefan yr awdurdod lleol.

Chwilio A i Y