Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Talebau digidol i ddisgyblion sy’n gymwys am brydau bwyd ysgol am ddim ar gyfer hanner tymor mis Mai

Bydd teuluoedd sydd â phlant sy’n gymwys am brydau bwyd am ddim ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael taleb ddigidol ar gyfer gwyliau hanner tymor mis Mai yn fuan.

Bydd y daleb gwerth £19.50 ar gyfer wythnos hanner tymor yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at deuluoedd yn y dyddiau nesaf dros e-bost neu neges destun.

Gallwch gyfnewid y daleb yn unrhyw allfa 'PayPoint', sydd fel arfer i'w cael mewn siopau lleol, archfarchnadoedd mawr a gorsafoedd petrol.

Eligible parents will receive email vouchers from no-reply@paypointsvp.com and text vouchers will show as sent from ‘Cash Out’.

Gall rhieni a gofalwyr ddod o hyd i'r Pay Point agosaf drwy ddilyn y ddolen isod: https://consumer.paypoint.com/

Dylai rhieni/gofalwyr gyflwyno cod bar y daleb yn eu PayPoint agosaf ble bydd yn cael ei gyfnewid am y swm perthnasol sydd i'w ddefnyddio ar gyfer bwyd a diod i'ch plentyn yn unig.  Nodwch nad yw cyfleusterau 'cash out' ar gael gan fanwerthwyr McColls ar hyn o bryd.

Gofynnir i rieni a gofalwyr gadw llygad ar eu negeseuon e-bost sbam/sothach ac os na fyddant wedi derbyn taleb drwy e-bost neu neges destun erbyn dydd Mercher 25 Hydref, dylent anfon e-bost i FSMCOVID19@bridgend.gov.ukgan ddarparu manylion llawn eu plentyn/plant a'u hysgol fel bod modd ymchwilio i hyn.

Atgoffir rhieni a gofalwyr bod talebau’n cael eu hanfon mewn llwythi, ac nid yw’n anghyffredin i blant yn yr un cartref gael eu talebau ar wahanol adegau.

Rydym yn falch o barhau i roi cymorth i deuluoedd, y mae eu plant yn gymwys i dderbyn prydau bwyd ysgol am ddim, tu hwnt i dymor ysgol.

Mae'n dda gweld hefyd y gellir cyfnewid y talebau mewn ystod eang o siopau ledled y fwrdeistref sirol.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y