Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Taith o Barch i nodi 40 blynedd o'r Gwarchodlu Cymreig

Bydd cynrychiolwyr o'r Gwarchodlu Cymreig yn ymweld â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mercher 22 Mehefin fel rhan o'u Taith o Barch i nodi 40 Blynedd ers ei Sefydlu.

Wedi'i chynnal dros bedwar diwrnod (Mehefin 21-24), mae'r Daith o Barch ar gefn beiciau modur yn cael ei chynnal i gofio ac anrhydeddu'r Gwarchodlu Cymreig ac aelodau eraill o'r lluoedd arfog a gollodd eu bywydau 40 blynedd yn ôl yn ystod Rhyfel y Falklands yn 1982.

Bydd yn cael ei chynnal am tua 10.10am, a bydd yn cynnwys gosod torch er cof am y Gwarchodfilwr A Keeble, a fu farw yn ystod y rhyfel.

Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu i gofio am yr unigolion a fu farw ac er mwyn dangos parch i'w teuluoedd. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth yn y lleoliadau lle gosodwyd cofebau Rhyfel y Falklands, bwriedir hefyd dangos cefnogaeth i gyn-filwyr a'u teuluoedd.

Bydd y beicwyr modur yn teithio pellter o dros 1,000 milltir. Gwnaethant ddechrau ar eu taith ym Marics Combermere, Windsor, fore dydd Mawrth 21 Mehefin, a byddant yn gorffen ger Cofeb y Gwarchodlu Cymreig yn Wrecsam brynhawn dydd Gwener 24 Mehefin.

Bu farw cyfanswm o 56 o ddynion ar ddwy long, Sir Galahad a Sir Tristam, yn Bluff Cove, Ynysoedd y Falklands, ddydd Mawrth 8 Mehefin 1982, ac roedd 32 ohonynt yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig. Cafodd amryw o rai eraill eu hanafu. Cafodd llong Sir Galahad ei dinistrio gan jetiau Skyhawk prin chwe diwrnod cyn diwedd Rhyfel y Falklands.

Bu i Ryfel y Falklands 1982 barhau am 10 wythnos, a bu farw dros 900 o bobl. Bu farw 255 o filwyr Prydain, tri ynyswr a 649 o filwyr yr Ariannin yn ystod ymosodiad yr Ariannin ar Ynysoedd Prydeinig y Falkland, dros 74 diwrnod. Llwyddodd lluoedd Prydain i adennill Ynysoedd y Falklands ar 14 Mehefin, 1982. 

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o fod â thraddodiad hir o gefnogi unigolion yn y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, ac rydym yn croesawu beicwyr modur y Gwarchodlu Cymreig ar eu taith o amgylch Cymru.

Mae hyn yn adlewyrchu'r parch sydd gennym tuag at ein lluoedd arfog, ac rydym yn ymuno â nhw i ddiolch a dangos ein gwerthfawrogiad i bawb sy'n gwasanaethu.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David

Chwilio A i Y