Tair Baner Las yn hedfan eto
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 15 Mai 2019
Mae Rest Bay, Bae Trecco a Marina Porthcawl i gyd wedi cadw eu Baneri Glas nodedig sy’n cydnabod y lefelau uchaf o lendid ac ansawdd dŵr.
Rydyn ni’n falch bod y tri safle yma wedi cadw eu Baneri Glas. Mae Baner Las yn dynodi’r safonau amgylcheddol uchaf ac mae pobl yn ymddiried yn y safon ym mhob cwr o'r byd. Mae gweld Baner Las yn dangos i ymwelwyr eu bod wedi cyrraedd cyrchfan o safon.
Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i helpu i gadw ein traethau lleol mor lân â phosib. Gyda’r tywydd yn dechrau cynhesu, a phenwythnos Gŵyl Banc arall ar y gorwel, fe hoffwn i atgoffa pawb sy’n bwriadu ymweld â’n traethau ni i adael dim mwy nag olion eu traed yma, a chael gwared ar eu sbwriel yn gyfrifol.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau
Mae rhaglen y Faner Las yn eiddo yn rhyngwladol i’r Sefydliad ar gyfer Addysg Amgylcheddol (FEE), gyda mwy na 4,000 o safleoedd wedi ennill dynodiad mewn bron i 50 o wledydd.
Mae manylion llawn am holl enillwyr dyfarniad y Faner Las eleni yng Nghymru ar gael yn www.keepwalestiday.cymru
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.