Tair Baner Las yn Chwifio ym Mhorthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 18 Mai 2018
Mae Bae Rest, Bae Treco a Marina Porthcawl i gyd wedi cadw eu gwobrau Baner Las mawr eu bri.
Mae 2018 yn nodi 30 mlynedd ers dechrau’r rhaglen Baner Las yng Nghymru, sy’n cydnabod y lefelau uchaf o lendid ac ansawdd dŵr.
Rydym yn falch bod y tri safle hyn wedi cadw eu Gwobrau Baner Las. Mae Baner Las yn arwydd o’r safonau amgylcheddol o’r ansawdd uchaf yr ymddiriedir ynddynt ledled y byd.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau
Mae cyfanswm o 47 o Faneri Glas wedi eu dyfarnu ledled Cymru eleni, sy’n golygu bod gan Gymru fwy o Faneri Glas fesul milltir nag unrhyw le arall ym Mhrydain.
Ychwanegodd y Cynghorydd Young: “Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i helpu i gadw ein traethau lleol mor lân â phosibl. Yn ystod Gŵyl y Banc diwethaf, gwagiodd staff y cyngor saith llond lori o sbwriel o 220 o finiau Porthcawl wrth i bobl heidio at lan y môr i fwynhau’r tywydd braf.
“Yn anffodus, roedd rhai achosion o ymwelwyr yn lluchio eu sbwriel, gan ddangos diffyg parch at eraill ac at yr amgylchedd. Os gallwch chi weld bod bin eisoes yn llawn, ewch â’ch sbwriel adref gyda chi a’i waredu yn y fan honno, neu chwiliwch am fin arall - peidiwch â’i luchio a difetha hwyl pawb arall."