Sylw i bawb sydd yn rownd derfynol Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2018
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 01 Awst 2018
Mae enwau’r rhai sydd yn rownd derfynol chweched seremoni flynyddol Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu datgelu.
Yn dilyn proses feirniadu fanwl, mae’r panel – sy’n cynnwys noddwyr 2018 a chynrychiolwyr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr – wedi dewis busnesau o amrywiaeth o sectorau i fod yn y rownd derfynol.
Mae’r busnesau a’r unigolion hollbwysig sydd ar y rhestr fer yn cynnwys y canlynol:
Myfyriwr Busnes y Flwyddyn, noddir gan Gyfrifwyr Siartredig Graham Paul:-
Keiron Farr, Farrscend – enwebwyd gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr
Busnes Newydd y Flwyddyn, noddir gan ISA Training:-
- Apollo Business Village
- Assisted Mobility Services Cyf.
- Team 8 Digital
Busnes Gwasanaethau y Flwyddyn, noddir gan Gyfrifwyr Siartredig Harris Bassett
- A&R Contract Cleaning Specialist Cyf.
- Apollo Teaching Services Cyf.
- Valleys to Coast Housing Cyf.
Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn, noddir gan EEF, sefydliad y gweithgynhyrchwyr
- Engineering Services (Pen-y-bont ar Ogwr) Cyf.
- Ford Motor Company – Ford Bridgend Engine Plant (BEP)
- Recycle Direct Cyf.
Entrepreneur y Flwyddyn, noddir gan SME Finance Partners
- Linda Wongham, Assisted Mobility Services Cyf.
- Kirsty-Leigh Lewis, Thornbush Hill
- Rachel James, Teddy Land Cyf.
Gwobr y Diwydiannau Creadigol, noddir gan Handelsbanken
- Customised Sheet Metal Cyf.
- Elite Signs & Graphics Cyf.
- Wales Interactive Cyf.
Busnes Arloesol y Flwyddyn, noddir gan Fanc Datblygu Cymru
- Apollo Teaching Services Cyf.
- Comgem Cyf.
- Nemein Cyf.
Busnes Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn, noddir gan Aevitas
- com Cyf.
- Magenta Financial Planning Cyf.
- TSW Training Cyf.
Bydd enw enillydd Busnes Twristiaeth y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei noddi gan Gyfreithwyr Berry Smith, yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol yn y seremoni ym mis Medi.
Dywedodd Jay Ball, Is-gadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr: “Llongyfarchiadau i bawb sydd yn rownd derfynol Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr eleni. Rydyn ni wedi cael ymateb gwych eto eleni gyda digon o geisiadau cryf gan ymgeiswyr newydd a blaenorol.
“Fel perchennog busnes fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae’n wych cael bod yn rhan o’r gwobrau hyn sy’n dathlu mentrau lleol safonol. Roedd y beirniaid i gyd yn eithriadol hapus gyda safon uchel yr holl ymgeiswyr eleni. Bydd rhagoriaeth wrth galon y gwobrau hyn bob amser, gan dynnu sylw at lwyddiant, egni a phenderfyniad busnesau ledled y fwrdeistref sirol, mawr, canolig a bach.
“Fe hoffwn i ddymuno pob lwc i bawb sydd yn y rownd derfynol ac rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu’r cyflawniadau rhagorol yn ein noson wobrwyo ym mis Medi.”
Nod Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yw cydnabod a dathlu gwaith caled a chyflawniadau parhaus busnesau lleol.
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i feithrin menter yn y fwrdeistref sirol ac rydw i’n falch ein bod ni’n gallu chwarae ein rhan, drwy waith gwerthfawr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, mewn parhau i ddarparu llwyfan ar gyfer dangos y talentau a’r sgiliau rhagorol sydd gennym ni yn ein cymuned fusnes heddiw.
Rydyn ni mor ffodus yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o fod â busnesau mor frwd. Fe hoffwn i longyfarch pawb sydd yn rownd derfynol y gwobrau eleni a dymuno pob lwc iddyn nhw. Rydw i’n edrych ymlaen at gyfarfod pawb sydd yn y rownd derfynol a dathlu gyda nhw yn y seremoni wobrwyo fis Medi.
y Cynghorydd Charles Smith, aelod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio
Mae’r noddwyr yn cynnwys: Rockwool; Aevitas; Cyfreithwyr Berry Smith; Cymraeg mewn Busnes; Banc Datblygu Cymru; EEF, sefydliad y gweithgynhyrchwyr; Cyfrifwyr Siartredig Graham Paul; Handelsbanken; Harris Bassett; ISA Training; KK Solutions; SME Finance Partners ac United Graphic Design.
Cewch weld y newyddion diweddaraf am y gwobrau drwy ddilyn y fforwm ar Twitter @Bridgendforum #BBFAwards, neu ‘hoffi’ y fforwm ar ein tudalen Facebook.
Ewch i wefan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr am fanylion llawn y gwobrau.