Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddi arlwyo mewn ysgolion ar gael ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am bobl i ymuno â’i dîm Gwasanaethau Arlwyo, i helpu i baratoi a gweini prydau bwyd i blant ysgolion lleol.

Mae angen mwy o staff oherwydd, o fis Medi, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol ar draws Cymru i ddarparu’r cynnig am bryd bwyd maethlon am ddim, yn dechrau gyda dysgwyr dosbarth Derbyn yn gyntaf.

Bydd hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o blant dosbarth Derbyn yn dechrau cael prydau ysgol gynradd am ddim o fis Medi ymlaen.  Bydd blwyddyn gyntaf y cynllun yn canolbwyntio ar feithrin gallu o fewn adrannau arlwyo ysgolion, cyn cyflwyno'r fenter i grwpiau oedrannau eraill mewn ysgolion cynradd. 

Mae llawer o gyfleoedd ar gael i gogyddion, cogyddion cynorthwyol a chynorthwywyr cegin cyffredinol, gyda gweithwyr yn cael buddion fel oriau gwaith hyblyg yn ystod y tymor a mynediad i gynllun pensiwn staff.  Mae’r Gwasanaethau Arlwyo yn cynnig cyfraddau cyflog rhagorol, fel £9.50 yr awr ar gyfer cynorthwyydd cegin cyffredinol.

Mae cymorth parhaus ar gael gan y tîm rheoli, yn ogystal â hyfforddiant drwy weithio, ac mae llawer o gyfleoedd i astudio wrth i chi weithio a chwblhau cymwysterau pellach ar gael. Ewch i’n gwefan i weld ein swyddi gwag diweddaraf.

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig sy’n mwynhau gweithio mewn tîm a delio gyda phlant yn rheolaidd.

Mae gweithio o fewn tîm arlwyo y cyngor yn aml yn ddelfrydol os oes angen swydd arnoch sy’n ffitio eich ymrwymiadau teuluol, neu os ydych yn chwilio am eich swydd gyflogedig gyntaf ar ôl gadael ysgol.

Mae'n wych gweld y bydd prydau ysgol am ddim ar gael i bawb mewn ysgolion cynradd, ond mae hyn yn golygu bod angen mwy o staff i ymdopi â’r galw cynyddol. Byddwn yn annog unrhyw un i wneud cais a chwarae rhan allweddol yn y fenter hynod werthfawr hon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell:

Chwilio A i Y