Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddi ar gael yn y ffair swyddi sydd ar y gweill ym Maesteg

Bydd cyflogwyr a sefydliadau ar gael i drigolion Maesteg mewn ffair swyddi sydd ar y gweill y mis hwn.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim, yng Nghlwb Rygbi Maesteg, yn cael ei gynnal rhwng 10am a 1pm ddydd Gwener Mehefin 17.

Mae wedi cael ei drefnu gan Adran Gwaith a Phensiynau a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr yn bresennol yn y digwyddiad i gynnig cyngor a chymorth ar ystod o gyfleoedd gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Bydd rhai o'r cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn cynnwys Cyngor ar Bopeth, Aldi, Lefel Nesa, Becws Talgarth a Fieldbay yn ogystal â Domino’s Pizza, Elite Security, Henshed Maesteg ac Wepa. Bydd yna amrywiaeth o swyddi gwag dros dro a pharhaol ar gael i wneud cais amdanynt ar y diwrnod.

Mae yna hefyd ystod eang o swyddi ar gael yn yr awdurdod lleol a bydd gwybodaeth am y rhain a swyddi gwag eraill ar gael gan dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r ffair swyddi flynyddol bob amser yn boblogaidd iawn gyda phobl sy’n chwilio am waith a chyflogwyr ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rwyf wrth fy modd y bydd yr awdurdod lleol yn bresennol yn y ffair swyddi sydd ar y gweill ym Maesteg.

Mae’r ffair yn gyfle gwych i gael gwybodaeth a chefnogaeth bwysig ar gyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi i drigolion sydd wedi eu lleoli ym Maesteg.

Dywedodd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y