Swyddfeydd dinesig yn cau i'r cyhoedd
Poster information
Posted on: Dydd Llun 23 Mawrth 2020
Bydd swyddfeydd dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cau i'r cyhoedd o yfory ymlaen yn sgil y pryder parhaus ynglŷn â lledaenu'r coronafeirws.
Bydd y ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid a'r ddesg flaen yn y swyddfeydd dinesig yn Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr yn cau ddiwedd y dydd heddiw (dydd Llun, 23 Mawrth).
Byddant yn aros ar gau nes y bydd hysbysiad pellach.
Gellir cael mynediad i lawer o wasanaethau ar-lein drwy ddefnyddio ffôn, llechen, cyfrifiadur neu liniadur.
Maent yn cynnwys gwasanaethau sy'n ymwneud â thai a budd-dal tai, digartrefedd, ceisiadau ar gyfer bathodyn glas, derbyniadau i ysgolion, ailgylchu a gwastraff a'r amgylchedd yn ogystal â’r dreth gyngor, adrodd materion a thrwyddedu, ardrethi busnes a chynllunio.
Rydym wedi gwneud y penderfyniad i gau ein swyddfeydd i'r cyhoedd gan ddilyn cyngor y llywodraeth. Gofynnwn i drigolion ddefnyddio'r gwasanaeth Fy Nghyfrif ar-lein, cyfleusterau gwe-sgwrs Oggie a'r Porthol Jig-so Tai ar gyfer digartrefedd a thai sydd i gyd ar gael drwy wefan y cyngor.
Gall pobl hefyd anfon e-bost at y cyngor yn talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643. Mae ein timau i gyd yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau, a gofynnwn am ddealltwriaeth gan ein trigolion wrth i ni ymdrin â'r amgylchiadau heriol iawn hyn.
Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Er mwyn cael mynediad i'r gwasanaethau canlynol, cliciwch isod:
- Budd-dal tai
- Digartrefedd a cheisiadau ar gyfer y gofrestr tai
- Ceisiadau am fathodyn glas
- Derbyniadau i ysgolion
- Adrodd materion
- Ailgylchu, gwastraff a'r amgylchedd
- Trwyddedu, ardrethi busnes a chynllunio
- Y dreth gyngor
Ar gyfer y cyngor diweddaraf sydd ar gael i'r cyhoedd ar y coronafeirws, ewch i wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru (Dolen allanol - Bydd yn agor mewn tab neu ffenestr newydd), Llywodraeth Cymru (Dolen allanol - Bydd yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Dolen allanol - Bydd yn agor mewn tab neu ffenestr newydd).