Swyddfa bost Maesteg yn ailagor ar safle newydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 04 Mehefin 2020
Bydd swyddfa bost Maesteg, a fydd yn cau ddiwedd y dydd heddiw (dydd Gwener) yn ei leoliad presennol, yn ailagor ddydd Mercher, 3 Mehefin ar safle cyfagos.
Bydd y gwasanaeth, yn Stryd Talbot gyferbyn neuadd y dref, yn symud i Uned 13 Marchnad Awyr Agored Maesteg.
Bydd postfeistr profiadol dros dro yn darparu'r gwasanaeth newydd, a'r oriau agor fydd 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9am i 12.30pm ar ddydd Sadwrn.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Swyddfa'r Post er mwyn helpu i gadw'r gwasanaeth ym Maesteg.
Rydym yn falch iawn bod cynlluniau wedi'u cadarnhau bellach ar gyfer y symud. Mae'n flaenoriaeth i ni i sicrhau bod y Swyddfa Bost, sy'n wasanaeth hanfodol i lawer o drigolion a busnesau, yn aros yng nghanol y dref
Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd Gareth Shylon, rheolwr rhwydwaith ardal Swyddfa'r Post: “O ganlyniad i ymddiswyddiad y postfeistr presennol a materion sy'n ymwneud â phrydles yr adeilad, bydd y swyddfa bost bresennol yn Stryd Talbot yn cau ddiwedd y dydd heddiw (dydd Gwener) ac yn symud i safle dros dro. Oherwydd gwaith comisiynu, bydd y gangen yn agor cyn gynted â phosibl i gwsmeriaid fore Mercher.
“Ymddiheurwn yn ddwys am y tarfiad byr ar y gwasanaeth ac am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Gall cwsmeriaid gael mynediad i'r gwasanaeth mewn unrhyw gangen o Swyddfa'r Post, a changhennau Caerau a Llangynwyd yw'r rhai agosaf.”
Ychwanegodd: “Yn ystod yr argyfwng COVID-19, nid yw'r gangen bresennol wedi bod ar agor ar ddydd Sadwrn ac mae wedi bod yn gweithredu rhwng 9am a 1pm yn ystod yr wythnos, ac felly credwn y bydd symud i agor drwy'r dydd yn ystod yr wythnos yn cynnig mwy o ddewis i gwsmeriaid ynghylch pryd y gallant ddefnyddio gwasanaethau Swyddfa'r Post.
“Fel pob manwerthwr, bydd y postfeistr dros dro yn rhoi'r mesurau cadw pellter cymdeithasol angenrheidiol yn eu lle er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid a staff yn gallu defnyddio'r gangen, a gweithio ynddi, yn ddiogel.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am nodi a sicrhau safle yng nghanol y dref i ni ei ddefnyddio. Rydym yn deall y bydd cael mynediad parhaus i’r Swyddfa Bost yn bwysig i gwsmeriaid a busnesau lleol wrth i ni barhau i chwilio am weithredwr parhaol newydd.
“Bydd yr holl nwyddau a gwasanaethau y mae cwsmeriaid yn eu defnyddio bob dydd ar gael yn y gangen, ac eithrio treth cerbyd, adnewyddu pasbortau a gwasanaethau manylion personol arbenigol. Fodd bynnag, ni fydd y gwasanaeth casglu llythyrau a pharseli a hysbysir gan y Post Brenhinol, a oedd ar gael yn y gangen flaenorol, yn symud i'r lleoliad newydd oherwydd diffyg lle a gofynion storio diogel.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol ei fod yn gweithio gyda Post Office Ltd i ddod o hyd i ddatrysiad addas sy'n agos i Faesteg er mwyn i gwsmeriaid gasglu'r eitemau hyn. Fel mesur dros dro, gofynnir i gwsmeriaid gasglu eitemau na fu'n bosib eu dosbarthu'r tro cyntaf o swyddfa Gwasanaeth Cwsmeriaid Pen-y-bont ar Ogwr yn Ystad Ddiwydiannol Waterton.
Dywedodd: “Mae'r mwyafrif helaeth o barseli'n cael eu dosbarthu’r tro cyntaf ar hyn o bryd. Os na allwn ddosbarthu eitem y tro cyntaf, byddwn yn ceisio'i dosbarthu i gymydog cyfagos neu gymydog a bennwyd gan y cwsmer – os na fydd hyn yn bosibl, caiff yr eitem ei dychwelyd i Bwynt Gwasanaeth Cwsmeriaid Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn i gwsmer ei chasglu neu ar gyfer ei dosbarthu'r eildro. Gall cwsmeriaid hefyd drefnu dosbarthiad am yr eildro am ddim ar ddiwrnod sy'n gyfleus iddynt.”