Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swydd Wag ar y Pwyllgor Safonau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr yn ceisio penodi Aelod Annibynnol (Cyfethol) i wasanaethu ar ei Bwyllgor Safonau. Bydd y penodiad am dymor o 6 blynedd a gellir ei adnewyddu am dymor arall o 4 blynedd.

Mae'r Pwyllgor Safonau yn hyrwyddo ac yn cynnal safonau ymddygiad a threiddgarwch uchel i'w gynghorwyr lleol. Ar hyn o bryd mae saith aelod ar y Pwyllgor yn cynnwys Aelodau a Chynghorwyr Annibynnol.

Gwahoddir ceisiadau gan bobl uchel eu parch sydd ag uniondeb personol cryf a pharch at eraill, y gallu i weithio fel rhan o dîm a gweithredu gyda disgresiwn yn ogystal â chred gref ym mhwysigrwydd dilyn a diogelu gwerthoedd moesegol mewn bywyd cyhoeddus.

Mae pedwar cyfarfod Pwyllgor Safonau'r Flwyddyn ac yn ogystal cynhelir cyfarfodydd pan fo angen er mwyn penderfynu canlyniad cwyn yn erbyn Cynghorwyr. Mae'r gwrandawiadau hyn yn digwydd yn ystod y dydd ac fel arfer dim ond am un diwrnod y maen nhw’n para.

Mae'r taliadau i Aelodau Annibynnol (Cyfetholwyr) yn cael eu gosod gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Y gyfradd bresennol sy'n daladwy yw £238 am 4 awr a throsodd neu £199 am lai na 4 awr.

Sut i Ymgeisio

Darperir hyfforddiant ar gyfer Aelodau Annibynnol. Os hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mrs Kelly Watson, Swyddog Monitro'r Cyngor ar 01656 643248 neu e-bost: Kelly.watson@bridgend.gov.uk.

I wneud cais, anfonwch eich Curriculum Vitae at Mrs Laura Griffiths yn: laura.griffiths@bridgend.gov.uk 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Chwefror 2023

Chwilio A i Y