Sut y gallwch chi ymuno â Thîm Strydoedd Glanach y cyngor?
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 17 Medi 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am bobl newydd i ymuno â’r Timau Strydoedd Glanach, ac maen nhw wedi creu nifer o swyddi gwag.
Mae amrywiaeth o swyddi gwahanol ar gael, o swyddog glanhau cyffredinol i yrwyr loriau ysgubo. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’r tîm sy’n cwblhau gwaith glanhau rheolaidd mewn safleoedd gwahanol, a sicrhau bod gwaith glanhau o safon uchel yn cael ei gynnal ar draws y fwrdeistref sirol.
Ar hyn o bryd, mae gan y Tîm Strydoedd Glanach 40 o weithwyr, ac mae’n gweithio’n agos gyda Kier i sicrhau bod gwastraff yn cael ei gasglu a bod strydoedd yn lân.
Yn ystod mis Awst a chyfnod prysur Gŵyl y Banc, casglodd y tîm oddeutu 98 tunnell o ysbwriel ac eitemau tipio anghyfreithlon, sy'n cyfateb i dros 2.5 tunnell yn cael ei drin gan bob gweithiwr. Yna, mae’r ysbwriel yn cael ei gludo i Derwen Recycling Ltd, sydd yn ddiweddar wedi cytuno ar gontract newydd gyda’r awdurdod lleol, gyda’r nod o wella cyfraddau ailgylchu yn y fwrdeistref sirol.
Mae Derwen yn ceisio sicrhau nad oes dim gwastraff yn mynd i ganolfannau tirlenwi, a hynny drwy ddefnyddio’r holl ddeunyddiau sy’n cyrraedd eu gorsaf sy’n cael ei phweru gan ynni’r haul, yn cynnwys ailgylchu deunyddiau a chynhyrchu tanwydd sy’n deillio o wastraff, sy’n cael ei drosglwyddo i orsafoedd pŵer a’i ddefnyddio i gynhyrchu trydan.
Mae’r tîm hefyd yn cefnogi ymgyrchoedd megis ‘Ei Charu, a'i Chadw'n Lân'. Wedi'i lansio yn 2019, mae'r prosiect yn gydweithrediad ar y cyd rhwng y cyngor, Cadw Cymru'n Daclus, cynghorau cymuned a Nature Quest sy'n ceisio helpu i fynd i'r afael â phroblemau gyda thaflu sbwriel ar strydoedd a thraethau'r dref.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno ag un o dimau pwysicaf Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae eu gwaith caled yn sicrhau bod ein strydoedd yn cael eu cadw’n lân, a hynny i safon uchel, ac yn rhydd rhag tipio anghyfreithlon ac ysbwriel.
Gall gweithio gyda’r Tîm Strydoedd Glanach fod yn werth chweil ac mae’r amrywiaeth eang o swyddi’n berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored.
Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau gweithio gyda’r Tîm Strydoedd Glanach fynegi eu diddordeb drwy’r Pertemps Agency.