Sut y gallwch chi ddod yn gynghorydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 18 Hydref 2021
Gydag etholiadau nesaf y llywodraeth yn dod ym mis Mai 2022, rydym yn chwilio am fwy o gynghorwyr i gynrychioli eu cymuned.
Mae bod yn gynghorydd yn agored i unrhyw un dros 18 oed, sydd ar y gofrestr etholiadol ac wedi byw, gweithio neu fod yn berchen ar eiddo yn y fwrdeistref sirol am y 12 mis diwethaf o leiaf.
Mae'r awdurdod lleol yn cynnal dwy sesiwn ar gyfer darpar ymgeiswyr sy'n ystyried sefyll yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022. Bydd y sesiynau rhithwir, a gynhelir ar 18 a 25 Tachwedd 2021 am 6.30pm, yn amlinellu rôl cynghorydd a swyddogaethau'r cyngor yn ogystal ag egluro sut i ddod yn ymgeisydd.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynd i un o’r sesiynau hyn anfon e-bost i: membersbcbc@bridgend.gov.uk yn nodi pa sesiwn fyddai’n well ganddynt fynd iddi.
Mae'r cyngor yn chwilio am fwy o gynghorwyr sydd mor amrywiol â'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli ac mae’n annog unrhyw un o dan 40 oed, menywod, y rheini ag anableddau, LGBTQ+, Du neu Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifol eraill ac o ystod o gredoau, diwylliannau ac amgylchiadau personol i gofrestru eu diddordeb.
Rwyf wedi cael yr anrhydedd o wasanaethu fel cynghorydd lleol, a chredaf ei bod yn fraint gallu cynrychioli pobl leol a rhoi llais iddynt ar y cyngor bwrdeistref sirol.
Mae bod yn gynghorydd yn aml yn heriol, ond mae’n rhoi llawer o foddhad ac yn bleserus. Rydym yn cynrychioli pob un o'r bobl sy'n byw mewn ward benodol, a'n dyletswydd yw gwasanaethu'r gymuned hyd eithaf ein gallu.
Gyda’r rownd nesaf o etholiadau lleol i fod i gael ei chynnal ym mis Mai 2022, mae’r sesiynau ar gyfer darpar ymgeiswyr yn gyfle gwych i gael mwy o fewnwelediad i rôl cynghorydd.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Os hoffech gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Etholiadol. Dylai'r rhai sy'n ystyried sefyll fel ymgeisydd ar gyfer plaid wleidyddol benodol gysylltu yn gyntaf â sefydliad lleol y blaid honno.
I gael gwybod mwy am ddod yn gynghorydd, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr