Sut y caiff 'jig-so adfywio' Porthcawl ei roi at ei gilydd dros y pum mlynedd nesaf
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 21 Tachwedd 2018
Mae'r prif ddatblygiadau a fydd yn cychwyn trawsnewidiad syfrdanol Porthcawl dros y pum mlynedd nesaf wedi eu datgelu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Aelodau'r Cabinet o'r awdurdod lleol wedi cytuno y bydd y 'jig-so adfywio' a fydd yn cael ei roi at ei gilydd dros sawl cam yn darparu siop fwyd newydd, atyniadau hamdden, tai a Phromenâd y Dwyrain gwell.
Y Nadolig diwethaf, llwyddodd y cyngor i ddymchwel y rhwystrau a oedd wedi atal adfywiad y dref drwy sicrhau cytundeb o £3.33miliwn i gymryd rheolaeth gyflawn dros safle parcio Salt Lake.
Er bod uwchgynllun adfywio blaenorol yn canolbwyntio ar ddatblygu archfarchnad fawr, bydd y cynlluniau newydd yn cynnwys siop fwyd lai o faint ar ochr ogleddol safle Salt Lake (tuag at ganolfan gymunedol Awel y Môr).
Bydd y cyfle'n cael ei farchnata ddechrau 2019, a gallai siop agor mor fuan â haf 2021.
Fel effaith domino, bydd y derbyniadau cyfalaf o werthiant y tir hwnnw yn galluogi'r cyngor i barhau â’r camau nesaf, gan ddechrau â gwaith mawr ar faes parcio Hillsboro Place.
Yn ogystal ag ail-wynebu, bydd cynllun y maes parcio yn cael ei wneud yn fwy effeithlon a hygyrch, ac ymchwilir i'r syniad o ddatblygu gwesty ar ochr ddeheuol y maes parcio.
Darn nesaf y jig-so fydd marchnata'r tir sy’n union wrth ymyl y siop fwyd newydd (ar ochr ogledd-ddwyreiniol y safle) ar gyfer tai yn hwyr yn 2019.
Bydd yn rhaid gwneud cyfres o welliannau diogelu arfordirol yn dilyn hynny er mwyn lliniaru'r risg o lifogydd i weddill safle Salt Lake. Bydd hyn yn cynnwys gwaith ar Forglawdd y Gorllewin a Phromenâd y Dwyrain sy’n edrych allan dros Sandy Bay.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymeradwyo achos busnes amlinellol y cyngor ar gyfer gwaith amddiffyn yr arfordir ac mae cynlluniau manwl yn cael eu datblygu nawr cyn i’r cynnig terfynol am arian cyfatebol gael ei gyflwyno yn hydref 2019. Os derbynnir y cynnig hwnnw, bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 2020 a 2021.
Unwaith y bydd y gwaith amddiffyn yr arfordir wedi'i gwblhau, bydd dau gam arall o ddatblygu tai yn cael eu gwneud yn 2022/2023 yng nghanol safle Salt Lake, gyda rhywfaint o'r tir yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio dros dro yn y tymor byr.
Y gobaith yw y bydd y chwarter sy’n weddill o safle Salt Lake, wrth ymyl y marina, yn cynnwys atyniad hamdden newydd cyffrous. Gan fod y farchnad buddsoddwyr hamdden yn wan ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn cael trafodaethau gyda Croeso Cymru i ddenu buddsoddwyr cenedlaethol.
Bydd y tir hefyd ar gael ar gyfer defnydd hamdden dros dro yn y cyfnod cyn i'r atyniad hamdden parhaol gael ei sicrhau.
Bydd y Portway yn cael ei gadw ar agor fel ffordd mynediad, ond yn cael ei addasu er mwyn ei wneud yn fwy addas ar gyfer cerddwyr, gyda llinellau gweld clir i gerddwyr gael mynediad at ganol y dref. Efallai bydd parcio croeslinol yn cael ei ystyried ar hyd y Portway hefyd.
Ar hyn o bryd Salt Lake yw'r safle datblygu’r glannau mwyaf yn y wlad. Mae ganddo botensial anferth. Mae gennym gyfle unwaith mewn oes i drawsnewid y tir yn rhywbeth sydd o fantais i drigolion ac ymwelwyr, a chredaf y bydd ein cynlluniau yn gwneud hynny.
Rwy'n aml yn meddwl am brosiectau fel hyn fel jig-so anferth sy'n dibynnu ar ddarnau penodol er mwyn cysylltu popeth â’i gilydd. Y cam cyntaf fydd siop fwyd newydd ac unwaith y bydd hwnnw yn ei le bydd yn rhyddhau’r arian sydd ei angen i wneud popeth arall yn bosib.
Cafodd ymdrechion adfywio blaenorol a oedd yn canolbwyntio ar archfarchnad fawr eu hatal i raddau helaeth gan newidiadau sylfaenol yn y farchnad siopau bwyd. Rhannwyd rhwystredigaethau trigolion dros y cynlluniau hynny a oedd wedi’u rhwystro, ond ers hynny rydym wedi ail-ddylunio’r cynlluniau ac mae diddordeb cryf gan nifer o adwerthwyr ar gyfer siop lai.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Adfywio
Ychwanegodd y Cynghorydd Smith: “Mae llawer o bobl leol hefyd wedi awgrymu y dylid cadw adeilad yr Harlequin am mai hwnnw yw'r unig ran sydd ar ôl o Orsaf Drenau Porthcawl. Rwy'n gobeithio y bydd yn rhan o brosiect treftadaeth ar ddarn o safle Hillsboro Place.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Rydym wedi gweld cymaint y mae'r marina a datblygiadau Adeilad Jennings wedi ailwampio’r rhan honno o'r glannau yn llwyr. Dros y pum mlynedd nesaf, caiff miliynau yn fwy eu gwario ar safle Salt Lake ar gyfleusterau hamdden newydd, tai, maes parcio, lleoedd manwerthu, amddiffynfeydd môr, a gwelliannau seilwaith.
"Bydd y cynllun adfywio hwn yn sicrhau dyfodol Porthcawl fel prif dref glan y môr a bydd yn creu swyddi, cartrefi a buddsoddiadau yn yr economi leol am flynyddoedd i ddod."
Mae'r cyngor hefyd wedi cadarnhau y bydd yn gosod peiriannau talu newydd ac yn gwneud llawer o welliannau eraill i faes parcio presennol Salt Lake erbyn Pasg 2019.