Sut y bu hi o safbwynt gweithio ym maes TGCh yn ystod y pandemig COVID-19
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2020
Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur tu hwnt ar gyfer y tîm TGCh yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – gan iddo archebu cannoedd o liniaduron yn ystod prinder byd-eang, ymdrin â dwywaith cymaint o ymosodiadau seiber, a sicrhau bod staff y cyngor wedi gallu gweithio o gartref.
Mae'r llwyth gwaith ychwanegol wedi bod ar ben y gwaith o gefnogi ysgolion wrth i athrawon symud tuag at addysgu ar-lein, addasu 500 o liniaduron a dyfeisiau TGCh at ddibenion gwahanol ar gyfer defnyddwyr sydd wedi'u heithrio'n ddigidol, a sicrhau bod gan gartrefi gofal lleol lechi fel y gallai preswylwyr wneud galwadau fideo i'w perthnasau.
Mae gwasanaeth TGCh y cyngor wedi'i rannu rhwng tîm systemau, arbenigwyr gwasanaethau data a rhwydwaith, a staff cymorth a swyddfa ddigidol.
Gan siarad am rai o'r heriau a wynebwyd yn nyddiau cynnar pandemig y coronafeirws, dywedodd Martin Bell, rheolwr y grŵp TGCh: “Roedd angen gwneud maint enfawr o waith, a hynny i gyd o fewn byr amser.
“Er bod tua 800 o aelodau staff eisoes yn defnyddio gliniaduron, roedd llai na 100 ohonynt yn gweithio'n ystwyth ar yr un pryd â'i gilydd. Yn ystod ein hamser prysuraf yn ystod y pandemig COVID-19, roedd mwy na 1,600 o staff yn gweithio o gartref ar liniaduron ar yr un pryd, ac mae llwyddiant hyn, gyda llawer o staff yn gweithio o gartref ar rybudd byr iawn, yn arwydd cadarnhaol o'r hyn y gallai'r dyfodol ei olygu.
“Yn y dyddiau cyn y cyfyngiadau symud, daeth yn amlwg y byddai mwy o alw am weithio'n ystwyth. O fewn yr ychydig wythnosau cyntaf, gwnaethom ddosbarthu mwy na 700 o liniaduron ar adeg pan oedd prinder byd-eang o'r math hwnnw o gyfarpar.”
Unwaith y cawsant eu dosbarthu gan gyflenwyr, roedd yn rhaid i'r gliniaduron fynd drwy broses adeiladu corfforaethol y cyngor, sy'n golygu ychwanegu gosodiadau diogelwch a chysylltiadau o bell â rhwydwaith yr awdurdod lleol. Yna, roedd angen trefnu amserlen anferth o apwyntiadau fel y gallai aelodau o staff gasglu'r gliniaduron o'r adran TGCh.
“Gwnaeth aelodau'r tîm TGCh dorchi eu llewys a bwrw ati – roeddent yn gwybod ei fod yn orchwyl yr oedd angen ei gwblhau”, dywedodd Martin. “Er bod llawer o staff swyddfa'n gallu gweithio o gartref, gwnaeth y tîm cymorth TGCh barhau i ddod i mewn ar bum diwrnod yr wythnos dros yr wythnosau cyntaf, a gwnaethant ddosbarthu hyd at 40 o liniaduron y dydd.
“Roedd gennym rywfaint o stoc o liniaduron ar gyfer prosiect gwahanol yn barod, ac roedd y ffaith fod gennym gydberthynas dda ag ychydig o gyflenwyr wedi'n galluogi i archebu 350 ychwanegol yn gyflym iawn.”
Ymhlith y timau a weithiodd o bell ers dechrau'r cyfyngiadau symud oedd canolfan cyswllt cwsmeriaid gyfan y cyngor.
Wrth hwyluso'r symudiad er mwyn i staff weithio o gartref, gwnaeth y tîm TGCh greu mwy na 1,000 o broffiliau Jabber newydd, gan alluogi staff i dderbyn galwadau ar eu rhifau ffôn swyddfa arferol ar yr un pryd â darparu mynediad diogel Citrix o gyfrifiaduron personol, a sicrhau y gellir cynnal cyfarfodydd ar-lein sy'n ddiogel.
Yn y cyfamser, gyda'r mwyafrif o staff swyddfa'r cyngor bellach yn gweithio o gartref, gwnaeth y tîm TGCh ymdrin â dwywaith cymaint o alwadau desg gwasanaeth nag arfer.
Yn ystod dyddiau cynnar y cyfyngiadau symud, golygodd heriau logisteg fod angen sicrhau y gellid cydymffurfio â rheolau cadw pellter cymdeithasol ar yr un pryd â threfnu i staff gasglu gliniaduron, ac mae heriau dilynol wedi cynnwys cynnydd mewn ymosodiadau seiber yn erbyn yr awdurdod.
Dywedodd Martin: “Er bod risgiau seiberddiogelwch wedi cynyddu yn ystod y pandemig, rydym wedi ymbaratoi yn dda iawn ar eu cyfer, ac mae gennym lefelau uchel o fesurau diogelwch yn eu lle, gan gynnwys waliau tân â gallu uchel, sy'n golygu y gall staff weithio o gartref yn ddiogel.
“Ar hyn o bryd, ymosodiadau gwe-rwydo sy'n peri'r risg fwyaf, ac rydym yn anfon negeseuon rheolaidd at staff i'w hatgoffa i beidio â chlicio ar ddolenni ar hap o fewn negeseuon e-bost os nad ydynt yn gwybod o ble maent wedi dod.”
Yn anffodus, mae'r pandemig wedi golygu y bu'n rhaid oedi nifer o brosiectau a gynlluniwyd, ac un o'r rheiny yw'r gwaith o symud canolfan ddata'r cyngor i adeilad awdurdod lleol gwahanol.
Mae technoleg wedi bod yn wirioneddol hanfodol bwysig dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae wedi galluogi staff i barhau i weithio, plant i gael mynediad i ddeunyddiau dysgu ar-lein, ac aelodau o'n poblogaeth hŷn i gadw mewn cysylltiad â'u perthnasau.
Mae staff ein tîm TGCh wedi hwyluso hyn i gyd, ac maent wedi bod yn barod i gynorthwyo'r rheiny yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt, gan weithredu'n gyflym yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau y gall staff barhau i weithio o gartref yn ddiogel, a bod y cyngor wedi gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig.
Fel awdurdod lleol, rydym yn ddiolchgar dros ben am eu holl waith.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David