Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut mae'r cyngor yn cefnogi cartrefi gofal yn ystod y pandemig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i roi cyngor a chymorth arbenigol i staff a thrigolion cartrefi gofal lleol yn wyneb pandemig y coronafeirws.

Mae'r cymorth, sy'n cael ei ddarparu i gartrefi'r cyngor a sefydliadau preifat, yn amrywio o gymorth i ddod o hyd i gyflenwadau hanfodol a recriwtio staff i ddarparu gwasanaethau ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau colli a phrofedigaeth arbenigol.

Mae'r cyngor wedi sicrhau bod darparwyr gofal annibynnol ledled y fwrdeistref sirol wedi derbyn darpariaeth o fwy na 280,000 o eitemau o gyflenwadau PPE hanfodol bob wythnos, er mwyn cadw staff a phreswylwyr yn ddiogel, a chyfyngu ar y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â Covid-19.

Gan weithredu fel y sefydliad arweiniol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi sefydlu trefniadau amlasiantaethol sydd wedi sicrhau nad yw cartrefi gofal wedi rhedeg allan o staff yn ystod y pandemig, a bod gwasanaethau, offer arbenigol a chymorth gofal cymdeithasol ychwanegol i gyd wedi parhau i fod ar gael.

Mae gweithwyr y Cyngor yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno a chyflawni'r rhaglen frechu, sydd wedi cael ei chynnig yn llwyddiannus i bob cartref gofal, tra bod swyddogion o Wasanaeth Rheoliadol Cyffredin yr awdurdod lleol yn parhau i roi cyngor arbenigol ar atal a rheoli heintiau mewn safleoedd cartrefi gofal.

Gan weithio mewn partneriaeth agos, mae'r cyngor a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd wedi darparu timau integredig i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal nyrsio ym mhob cartref yn uniongyrchol.

Mae staff o'r cyngor, y GIG, y bwrdd iechyd ac ystod eang o asiantaethau eraill yn parhau i fynd gam ymhellach i helpu cartrefi gofal annibynnol sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor i ofalu am breswylwyr oedrannus a bregus, a hoffwn gydnabod eu hymdrechion a diolch i bob un ohonynt.

Mae pandemig y coronafeirws, wrth gwrs, wedi arwain at nifer o bobl yn marw, felly mae'r cyngor hefyd wedi bod yn gweithio i gefnogi staff cartrefi gofal wrth ddelio ag effaith byw a gweithio yng nghysgod Covid-19, ac wrth ddelio â'r galar a’r golled anochel a ddaw yn sgil colli preswylydd.

Un o'r ffyrdd unigryw mae tîm gwasanaethau cymdeithasol y cyngor wedi ymateb i hyn yw drwy ymgysylltu â sefydliad colled a phrofedigaeth arbenigol, a sicrhau bod gweminarau pwrpasol, ar-lein ar gael i roi cymorth gwybodus a chydymdeimladol i staff cartrefi gofal. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael i unrhyw breswylwyr neu berthnasau eraill sy'n teimlo y gallent elwa ohono, ac rydym yn parhau i edrych ar ffyrdd arloesol eraill y gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth ystyrlon.

Dywedodd y Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y