Sut mae grantiau gwelliannau awyr agored yn cefnogi busnesau lleol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 19 Mawrth 2021
Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo llacio, mae nifer o fusnesau a sefydliadau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn cyllid i wneud addasiadau awyr agored a fydd yn helpu i gadw eu cwsmeriaid yn ddiogel.
Gan ddefnyddio arian gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tasglu'r Cymoedd a menter Buddsoddiad Adfywiad Targedig Llywodraeth Cymru, mae’r Gronfa Adfer Wedi Covid-19 Gwelliannau Awyr Agored wedi targedu ardaloedd allanol lle mae cwsmeriaid ac aelodau o'r cyhoedd yn ymgynnull, yn ymlacio neu’n mwynhau bwyd a diod.
Mae perchnogion busnes ac eiddo masnachol wedi gallu ymgeisio am grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer addasiadau yn amrywio o ganopïau a dodrefn awyr agored i banwyr, gwres awyr agored, sgriniau a mwy.
Mae’r grant yn cynnig cyllid o hyd at 80 y cant neu uchafswm gwerth o £10,000 o gyfanswm y costau gwella cymwys, gydag o leiaf 20 y cant o gyfanswm costau'r prosiect yn cael ei dalu gan yr ymgeisydd.
Hyd yn hyn, mae 58 o fusnesau lleol wedi elwa o’r cynllun, ac mae ceisiadau pellach yn cael eu prosesu ar hyn o bryd. Mae busnesau sydd wedi eu cefnogi hyd yn hyn yn cynnwys:
- The Potting Shed
- Wiggley's Fun Farm
- The Caeffatri
- Jolly Sailor
- Adventure Activity Centre
- Prince of Wales
- Clwb Tennis Pen-y-bont ar Ogwr
- Harrys Bar
- The Pen-y-bont
- Uned 1 - The Esplanade
- The Three Horseshoes
- The Sidewalk Café
- Clwb Fowlio Dref Pen-y-bont ar Ogwr
- Casey’s Café
- Deintyddfa Talbot
- Iced Gems
- Il Panino
- Huna Bar
- Gwesty Coed y Mwstwr
- Angel Inn
- Hi-Tide Inn
- The Royal Oak
- The Three Horseshoes
- Wickhams Stores
- Oddfellows
- El Prado
- The Globe
- Tino Sidoli
- Clwb Rygbi Pêl-droed Pencoed
- Clwb Rygbi Mynydd Cynffig
- Clwb Criced Maesteg
- Clwb Rygbi Pêl-droed Tondu
- The Federation Bar
- The Coach
- The Old Bakery Café
- Deano’s Café
- The Welsh Deli
- The McNamara Arms
- The Fruit Bowl
- Fablas
- Finnegans (Heol Newydd)
- Finnegans (Stryd y Ffynnon)
- Janz Art
- Pafiliwn y Grand
- Amgueddfa Porthcawl
- Crumbs
- The Corner House
- The Old House
- The Blaenogwr
- Llangeinor Arms
- Maesteg Celtic Ltd
- Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Dynion Heol-Y-Cyw
- Clwb Rygbi Pêl-droed Heol y Cyw
- Clwb Criced Maesteg
- Ysgol Ddawns Sian
- Parc Gwledig Bryngarw
Rwy’n falch o weld busnesau ledled y fwrdeistref sirol yn gwneud defnydd o’r cynllun hwn, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol.
Mae masnachwyr wedi wynebu nifer o heriau yn ystod y pandemig, felly rydym yn falch o gefnogi’r gwelliannau hyn a fydd yn galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio ardaloedd allanol y busnesau hyn, p’un a ydynt yn disgwyl, yn bwyta neu’n gorffwys.
Atgoffir busnesau, wrth wneud cais am grant fel hwn neu dderbyn grant fel hwn, fod yn rhaid i chi hefyd gofio gwirio i weld a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw welliannau y gallech fod wedi'u cynllunio.
Charles Smith, Aelod Cabinet dros Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr