Sut fydd Llyn Halen yn edrych ar ôl i siop fwyd newydd Porthcawl agor
Poster information
Posted on: Dydd Iau 01 Gorffennaf 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Aldi Stores Ltd wedi datgelu sut mae disgwyl i ddatblygiad siop fwyd newydd ar dir Llyn Halen edrych.
Gyda chontractau ar gyfer y datblygiad bellach wedi’u llofnodi a’u cyfnewid rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Aldi Stores Ltd, mae llun artist wedi cael ei ryddhau.
Mae hyn yn amlygu sut fydd yr adeilad yn cynnig dyluniad amgylcheddol-gynaliadwy sy’n defnyddio deunyddiau o'r ansawdd uchaf er mwyn parchu treftadaeth a lleoliad Porthcawl wrth edrych tuag at ddyheadau adfywio pellach i’r dyfodol.
Gyda tho sy'n cynnwys motiff 'ton' i adlewyrchu perthynas agos y gymuned â'r môr a ffocws cryf ar ddefnyddio deunyddiau pren a chalchfaen fel rhan o'r gwaith adeiladu, bwriad y datblygiad yw darparu adeilad tirnod eiconig a fydd yn gweithredu fel porth i'r gyrchfan.
Mae'r dyluniadau hefyd yn datgelu sut y bydd y datblygiad newydd yn cynnwys tirlunio helaeth o ansawdd uchel, a lle parcio ychwanegol i ddelio â theithiau i ganol y dref.
Bydd llwybrau cerdded a beicio gwell a gwelliannau i dir cyhoeddus yn cael eu gwneud, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, a bydd dyluniad cyffredinol y siop yn helpu i gynnig cysylltiad uniongyrchol â chanol y dref a Phromenâd y Dwyrain, sy'n mynd i gael ei adfywio hefyd.
Bydd y siop yn cael ei ddatblygu ar safle dwy erw o fewn ardal Llyn Halen sy'n cael ei adnabod yn lleol fel The Green. Yn dilyn hyn bydd datblygiadau preswyl, hamdden, manwerthu a masnachol newydd, mannau agored gwyrdd, cyfleusterau teithio llesol newydd a mwy o faint, gan gynnwys buddsoddiad sylweddol ym maes parcio Hillsboro Place gerllaw.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o gadarnhau, ar ôl llawer o waith caled, bod contractau wedi'u cyfnewid a bod cam siop fwyd cynlluniau adfywio Porthcawl yn mynd rhagddo. Mae’r arian a ryddheir yn sgil gwerthu'r tir yn cael ei ailfuddsoddi ym Mhorthcawl, a bydd yn datgloi arian a fydd yn cefnogi gwelliannau seilwaith lleol a chamau pellach o'r cynlluniau adfywio.
Er mwyn sicrhau bod y siop yn gweddu’n ddi-dor â busnesau yn Stryd John, mae cytundeb Adran 106 wedi'i gynnwys i ddarparu cysylltiadau clir, llinellau golwg a mynediad i gerddwyr rhwng y safleoedd.
Rydym yn edrych ymlaen at weld y datblygiad yn cael ei ddatblygu, ac at gwblhau cyfnod arall yn y gwaith parhaus o adfywio Porthcawl
Cynhorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Dywedodd llefarydd ar ran Aldi: "Mae Aldi yn teimlo’n gyffrous am y posibilrwydd o wneud y buddsoddiad sylweddol hwn gwerth miliynau o bunnoedd ym Mhorthcawl.
"Rydym wedi gweithio'n helaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyrraedd cynllun pwrpasol, nodedig, a fydd yn ategu'r dref a dyheadau adfywio pellach i’r dyfodol.
"Bydd y siop newydd yn creu hyd at 40 o swyddi newydd, gyda chyfraddau cyflog uchel o fewn y diwydiant hwn, ynghyd â chyfleoedd hyffordd, a bydd yn darparu dewis siopa bwyd y mae mawr ei angen ar gyfer y gymuned leol.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau'r broses o ymgynghori â'r cyhoedd ar ein cais cynllunio ar gyfer y siop newydd, a byddwn yn rhyddhau rhagor o fanylion am sut y gall preswylwyr wneud sylwadau yn nes at yr amser."
Mae'r datblygiad siop fwyd yn rhan o'r gwaith ehangach o adfywio ardal glannau Porthcawl, a nodwyd fel safle adfywio strategol yng Nghynllun Adneuo CDLl Newydd y cyngor (sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd tan 27 Gorffennaf 2021).
Cynhelir ymgynghoriad pwrpasol pellach ar ardal glannau Porthcawl yn ddiweddarach yn y flwyddyn fel rhan o strategaeth gwneud lleoedd newydd, a fydd yn edrych ar sut y gellir ei gwella er budd y gymuned gyfan.