Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut bydd ymweliadau cartrefi gofal yn ail-ddechrau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu ail-gyflwyno ymweliadau â chartrefi gofal cyn gynted ag sy’n bosibl yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw.

Gan ddefnyddio canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru, mae staff yng nghartrefi gofal preswyl y Cyngor gydol yr ardal wedi dechrau cynnal gwiriadau ac asesiadau risg.

Mae’r canllawiau diwygiedig yn trafod materion megis sut ddylid cefnogi ymweliadau dan do gan bobl unigol, sut ddylid defnyddio podiau ymweld neu fannau agos eraill, sut ddylid ystyried y rhaglen frechu barhaus a llawer mwy.

Bydd angen i bob cartref unigol bennu pryd mae’n ddiogel i ymweliadau ail-ddechrau, ac mae’r cyngor yn rhannu’r canllawiau diwygiedig gyda darparwyr cartrefi gofal eraill wedi’u comisiynu.

Bydd rhai darparwyr cartrefi gofal yn ei chael hi’n anoddach nag eraill i hwyluso ymweliadau’n ddiogel, felly cyn ymweld, sicrhewch eich bod yn cysylltu â’r cartref perthnasol i weld pa drefniadau sydd ar waith.

Rydym yn gwybod bod cadw mewn cyswllt gyda pherthnasau a ffrindiau’n bwysig, ac rydym yn gwneud popeth hyd ein gallu i sicrhau y gall hyn ail-ddechrau mor ddiogel â phosib.

Mae’n rhaid i ni ail-gyflwyno hyn mewn ffordd ddiogel sy’n cael ei rheoli, ac sy’n bodloni holl anghenion canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru, felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda.

Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y