Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut allwch chi gymryd rhan yn yr etholiadau eleni

Gydag etholiad llywodraeth leol ar fin cael ei gynnal ym mis Mai eleni, mae’r cyngor yn chwilio am amrywiaeth o staff etholiad i helpu i gynnal y broses yn ddidrafferth.

Mae’r etholiad ei hun yn cael ei gynnal ar 5 Mai 2022, a bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif ar 6 Mai 2022, ac mae gennym y swyddi canlynol ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan:

Swyddogion llywyddu
Mae gan swyddogion llywyddu gyfrifoldeb am drosglwyddo’r blwch pleidleisio, cwblhau gwaith papur cyfreithiol rhagnodedig, cynnig cyfarwyddiau i glercod pleidleisio a chynnal cyfrinachedd y bleidlais drwy gydol eich apwyntiad.

Clercod pleidleisio
Ar agor i unrhyw un 18 oed a hŷn, mae’r swydd hon yn cynnwys cynnig cymorth gweinyddol i swyddog llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio lleol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - gyda rhai ardaloedd yn agor am dridiau (3, 4, 5 Mai 2022). Clercod pleidleisio yw’r cyswllt cyntaf ar gyfer etholwyr sy’n dymuno pleidleisio. Byddwch yn croesawu etholwyr i’r orsaf bleidleisio, dod o hyd iddynt ar y Gofrestr Etholiadol a chyflwyno papurau pleidleisio. Wrth weithio fel clerc pleidleisio, nid oes angen i staff y cyngor drefnu gwyliau blynyddol, ond mae’n rhaid i chi ofyn am ganiatâd eich rheolwr llinell cyn derbyn unrhyw apwyntiad.

Staff cyfrif
Ar agor i unrhyw un 16 oed a hŷn, mae’r swydd hon yn cynnwys cyfrif pleidleisiau yn Neuadd Fowlio Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd gofyn i chi wirio bod y pleidleisiwr wedi cwblhau’r papur pleidleisio’n gywir a gosod y papurau pleidleisio mewn pentyrrau ar gyfer pob ymgeisydd. Gall un bleidlais unigol ennill neu golli etholiad, felly mae cywirdeb wrth gyfrif yn hollbwysig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o’r swyddi uchod, anfonwch e-bost at electionstaff@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y