Sut all gofalwyr di-dâl dderbyn brechlyn Covid-19
Poster information
Posted on: Dydd Llun 08 Mawrth 2021
Mae pobl sy'n ofalwyr di-dâl ar gyfer perthynas, ffrind neu gymydog ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i gwblhau ffurflen ar-lein er mwyn gwneud cais am frechlyn coronafeirws.
Mae gofalwyr wedi cael eu hychwanegu i grŵp blaenoriaeth chwech, yn dilyn adolygiad ar y grwpiau blaenoriaeth brechu gan y Cyd-bwyllgor Brechlynnau ac Imiwneiddio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ffurflen ar-lein sydd angen ei chwblhau er mwyn trefnu apwyntiad.
Bydd yr apwyntiad yn cyfeirio gofalwyr at ganolfan frechu leol, lle byddant yn derbyn y brechlyn. Gan mai dim ond yn y canolfannau y gellir derbyn brechlyn, mae'n rhaid i ofalwyr gwblhau'r ffurflen ar-lein er mwyn derbyn apwyntiad.
Nid yw meddygfeydd meddygon teulu yn darparu'r brechlyn i ofalwyr, felly peidiwch â chysylltu â nhw gydag ymholiad.
Mae gofalwyr di-dâl yn darparu cymorth gwerthfawr i oedolion a phlant bregus, ac rwy'n gobeithio y byddant yn manteisio ar y cyfle hwn i dderbyn y brechlyn coronafeirws fel rhan o'r broses grwpiau blaenoriaeth.
Mae'r cam hwn yn rhoi sicrwydd pellach i bobl Cymru na fydd neb yn cael ei adael ar ôl fel rhan o'r rhaglen frechu.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Gallwch gwblhau'r ffurflen ar-lein a dysgu mwy am sut mae Llywodraeth Cymru’n trefnu brechiadau ar gyfer gofalwyr di-dâl ar wefan Llywodraeth Cymru. Gallwch hefyd gysylltu â gwasanaeth Llesiant Gofalwyr drwy bridgendwellbeing@ctsew.org.uk neu 01656 336969.