Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

‘Strictly Cymru’ yn dod â’i disgleirdeb i Ben-y-bont!

Oes gennych chi’r symudiadau i fod yr Anton du Beke nesaf? Os felly, mae’n bryd i chi siglo a jeifio draw i ‘Strictly Cymru’ - cystadleuaeth dawnsio cynhwysol gyntaf Cymru - sy’n dod i Ben-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr 2020!

Caiff ‘Strictly Cymru’ ei threfnu gan Leonard Cheshire Wales, elusen y DU, sy’n gweithio i gefnogi pobl anabl ac unigolion i fyw, dysgu a gweithio mor annibynnol ag y mynnant, waeth beth fo’u hanabledd.   

Nod y gystadleuaeth, a gaiff ei chefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mewn partneriaeth â Paradance UK yw gwella iechyd, lles a mynediad at ffordd weithgar o fyw ar gyfer pobl anabl ledled Cymru. 

Bydd chwe rownd ledled Cymru, a bydd y bedwaredd rownd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Bywyd Bethlehem yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr.  Dros gyfnod o ddau ddiwrnod, 23 a 24 Ionawr 2020, bydd y cystadleuwyr yn cael eu gwahodd i gystadlu naill ai yn y categori cadeiriau olwyn neu'r categori cynhwysol.

Ar y diwrnod cyntaf, bydd y cystadleuwyr yn cael cymryd rhan mewn gweithdy dysgu dawns ac ar yr ail ddiwrnod, byddant yn cael gweithdy gloywi i ymarfer ac yna berfformio eu hact o flaen y beirniaid. 

Bydd y pencampwyr dawnsio o Ben-y-bont, Simon Green a Diane Carter, o Gynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr a phencampwyr efydd Clwb Para Dance UK Cymru yn 2019 yn dangos eu sgiliau yn y rownd yma hefyd. 

Bydd yr enillwyr lwcus yn cael cynnig gwersi un-i-un gyda hyfforddwyr dawnsio proffesiynol i’w helpu i gamu yr holl ffordd i’r Rownd Derfynol ddydd Sadwrn 2 Mai, lle byddant yn perfformio eu dawns o dan y bêl gliter!

Mae wedi bod yn brofiad gwych i bawb ac yn gyfle gwerth chweil i mi gwrdd â phobl newydd. Dylai pawb allu dysgu sut mae dawnsio, waeth beth fo'u gallu!

Rhodri Thompson, un o enillwyr y llynedd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, archebwch eich lle AM DDIM heddiw, yn: Strictly Cymru

Chwilio A i Y