Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Strategaeth newydd i atal digartrefedd

Mae strategaeth newydd wedi cael ei datblygu er mwyn helpu i atal digartrefedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gyda 18 y cant yn rhagor o bobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu gweithio hyd yn oed yn agosach gyda sefydliadau partner a landlordiaid er mwyn helpu i atal digartrefedd, ei gwneud yn haws i bobl sy’n wynebu perygl o ddigartrefedd gael mynediad at wasanaethau cymorth a sicrhau bod llety digonol ar gael ar gyfer unigolion a theuluoedd mewn angen.

Yn dilyn cwblhau adolygiad digartrefedd, mae Aelodau Cabinet o'r awdurdod lleol wedi cytuno i gyflwyno strategaeth ddrafft pedair blynedd i Lywodraeth Cymru roi ei sylwadau yn ogystal â gwahodd trigolion lleol i rannu eu safbwyntiau arni drwy ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod y gwanwyn.  

Mae’r amser hwn o'r flwyddyn yn gwneud ichi feddwl hyd yn oed yn fwy am ba mor anodd y mae bywyd i bobl sy'n byw ar y stryd. Mae'n rhaid i ni barhau i wneud popeth a allwn i atal pobl rhag bod yn y sefyllfa hon. Rydym eisoes yn gweithio gyda'n partneriaid gan gynnwys The Wallich, The Zone a Gwalia i ddarparu lle cynnes a diogel i gysgu bob nos ar gyfer y sawl sy'n cysgu ar y stryd yn ogystal â chanolfannau galw heibio yn ystod y dydd lle gallant gael mynediad at amrywiaeth o gymorth i’w helpu i ddychwelyd at lety llawn amser.

Fodd bynnag, yn aml mae camddealltwriaeth ynghylch digartrefedd. Nid yw bob amser ynghylch cysgu ar y stryd ac argaeledd llety yn unig.

Yn aml mae rhesymau cymhleth dros bobl yn dod yn ddigartref ac yn aros yn ddigartref. Nid yw nifer o bobl yn gallu cynnal llety o ganlyniad i broblemau megis salwch meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau. Mae angen i ddatrysiadau fod yn amrywiol felly a'u gwneud yn bwrpasol ar gyfer anghenion yr unigolyn, ac o ganlyniad, yn ddiweddar gwnaethom recriwtio gweithiwr allgymorth iechyd meddwl i weithio gyda phobl sydd angen cefnogaeth benodol.

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Roedd cynnydd o 18 y cant yn nifer y preswylwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a oedd yn wynebu perygl o ddigartrefedd rhwng 2015/16 a 2017/18. O'r rheiny, roedd 68 y cant yn bobl sengl a 59 y cant yn 34 oed neu'n iau.

Y rheswm pennaf dros ddigartrefedd oedd 'colli llety rhent neu lety clwm' (19 y cant) tra bod 13 y cant wedi dweud eu bod yn ddigartref oherwydd nad oedd eu rhieni yn gallu neu’n barod i roi llety iddyn nhw mwyach.

Y dulliau mwyaf poblogaidd a ddefnyddiwyd ar gyfer lleddfu digartrefedd oedd tai rhent preifat a thai rhent cymdeithasol, a derbyniodd 307 o breswylwyr gymorth drwy gael eu lleoli mewn llety dros dro yn ystod 2017/18. Cafodd dwy ran o dair o lety dros dro ei ddarparu gan hostel a weithredwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Patel: “Mae digartrefedd yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus hefyd gan gynnwys y gwasanaethau iechyd, heddlu, addysg a chymdeithasol. Dyma pam mae'n hollbwysig i wasanaethau cyhoeddus gydweithio er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd fel blaenoriaeth.

“Mae angen i wasanaethau tai a chymorth fod o fewn cyrraedd hawdd i bawb, a'u bod ar gael yn rhwydd ac wedi'u cynllunio'n unol ag anghenion y bobl sy'n eu defnyddio. Mae'n rhaid i ni wella'r ffordd rydym yn gweithio mewn partneriaeth fel bod pobl yn gallu cael eu grymuso i gymryd camau i ddatrys eu problemau tai a chynnal rheolaeth dros eu bywydau.”

Os oes gan unrhyw un bryderon am rywun sy’n cysgu ar y stryd, gall roi gwybod i’r awdurdod lleol drwy ddefnyddio'r ap Street Link sydd ar gael ar wefan Street Link. Mae'n ffordd gyflym a hawdd o sicrhau bod rhywun yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arno.

Chwilio A i Y