Stormydd yn ysgogi gwiriadau diogelwch ar domennydd glo lleol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 20 Chwefror 2020
Mae peirianwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrthi'n cynnal gwiriadau i sicrhau bod hen safleoedd cloddio glo lleol yn ddiogel o hyd yn sgil stormydd Ciara a Dennis.
Gyda rhagor o law trwm yn yr arfaeth dros y diwrnodau nesaf, cynhelir y gwiriadau fel cam rhagofalus ar 41 o safleoedd yng Nghwm Ogwr, Cwm Garw a Chwm Llynfi.
Ar yr un pryd, mae'r Awdurdod Glo wedi cadarnhau ei fod yn cynnal gwiriadau tebyg ar draws y rhanbarth ar unrhyw safle ei fod yn gyfrifol amdano o bosib.
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, a gyda nifer o hen safleoedd mwyngloddio wedi eu lleoli ar draws ein tri chwm, rydym am sicrhau eu bod yn parhau’n ddiogel ar ôl y stormydd a glaw trwm diweddar.
Rydym eisoes yn cynnal gwiriadau ar domennydd glo blaenorol am bethau fel draenio wyneb, ffensys, arwyddion, seddi a mynediad diogel, a byddwn yn archwilio cyrsiau dŵr a safleoedd lleol am unrhyw arwydd fod perygl tirlithriad.
Gall preswylwyr gael eu sicrhau y byddwn yn cymryd camau brys i sicrhau bod y safleoedd yn parhau’n ddiogel os bydd y gwiriadau hyn yn amlygu unrhyw faterion sy'n galw am sylw.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau