Storm Christoph yn taro'r fwrdeistref sirol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 20 Ionawr 2021
Wrth i Storm Christoph barhau i effeithio ar y DU, mae gweithwyr priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i weithio bob awr i fynd i'r afael â'r niwed a achoswyd gan wyntoedd cryfion a glaw trwm.
Mae'r gweithwyr wedi bod yn ymdrin â sawl mater gyda ffosydd a rhai draeniau sy'n bodoli eisoes, ac nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n gyfrifol am y cwbl.
Yn Lluest yng Nghwm Garw, llwyddodd y gweithwyr i glirio ffos a oedd wedi gorlenwi ac achosi llifogydd mewn eiddo cyfagos, ac aethant ati i glirio mwy o rwystrau ger tafarn y Green Meadow yn Llangeinor.
Mae bagiau tywod wedi'u rhoi i berchnogion tai yn Vale View a Heol Pantyrawel, a hefyd yn Commercial Street yng Nghwm Ogwr, lle'r oedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn bresennol.
Bu i'r glawiad a oedd yn symud drwy'r system ddraenio beri rhybuddion ffosydd ym Mhencoed, ac mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda thirfeddiannwr ar ôl adnabod problemau gyda ffos breifat ym Mhentre Belie.
Mae problemau yng Nghraig Las a Llangeinor Terrace dan ymchwiliad ar hyn o bryd, tra caewyd Ffordd y New Inn ym Merthyr Mawr oherwydd lefelau'r afon yng nghyffiniau'r Bont Drochi.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau: "Mae staff y Cyngor wedi gweithio bob awr unwaith eto i gefnogi cymunedau ar draws y fwrdeistref sirol, ac maent yn parhau i gynorthwyo preswylwyr i ymdrin â phroblemau yn sgil Storm Christoph.
"Maent yn monitro'r sefyllfa yn agos, ac yn barod i ymateb i unrhyw gais pellach am gymorth a chefnogaeth."
Gallwch wneud cais am fagiau tywod ac adrodd problemau drwy ffonio 01656 643643 neu anfon e-bost at talktous@bridgend.gov.uk. Am ragor o wybodaeth a chyngor ynghylch rhybuddion llifogydd, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.