Staff yn gweithio drwy gydol y nos i gynnal y fwrdeistref sirol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 21 Mai 2021
Gweithiodd staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy'r nos i ddelio â’r difrod a achoswyd gan wyntoedd cryfion.
Fe wnaeth criwiau priffyrdd ddelio â choed wedi cwympo mewn nifer o ardaloedd ledled y fwrdeistref sirol, yn ogystal â tho a gafodd ei chwythu oddi ar adeilad i’r ffordd yn Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd coed eu clirio o:
- Rhiw Las, Bracla
- Heol New Inn, Merthyr Mawr
- A4229 Ffordd Osgoi De Corneli
- Ffordd Llangrallo/Fairoak Chase, Bracla
- A4106 (A48 i three steps hill), Porthcawl
- Ffordd Mission, Garth, Maesteg
- A48 Cylchfan Redhill
- Heol Penybont, Pencoed
- A4064 Llangeinwyr to Lluest, ger Tafarn Green Meadow
Gwnaethant hefyd ddelio â damwain traffig ar yr A4063 Ffordd Tondu a pholyn ar ogwydd ar yr A4061 Ffordd Osgoi Sarn i Abercynffig.
Diolch yn fawr i’r staff a weithiodd drwy’r nos i ymateb i gyn nifer o ddigwyddiadau yn gyflym mewn amodau heriol.
Mae’r holl ffyrdd a restrwyd wedi agor eto, ond bydd peth gwaith clirio yn parhau heddiw i gael gwared â rhywfaint o falurion, felly efallai y bydd rhai lonydd ar gau’n ysbeidiol a dros dro i alluogi hyn.
Rhagwelir gwyntoedd cryf y prynhawn yma felly gofynnwn i breswylwyr gymryd gofal tra byddant allan.
Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd Stuart Baldwin