Staff gwasanaethau cwsmeriaid yn derbyn mwy na 12,000 o alwadau ffôn yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud o gymharu â'r un cyfnod y llynedd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Mehefin 2020
Derbyniodd staff gwasanaethau cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fwy na 12,000 o alwadau ffôn yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Gyda'i gilydd, mae'r tîm, sydd i gyd yn gweithio gartref, wedi ateb 28,710 o alwadau ers dechrau'r cyfyngiadau symud, gan ddelio â 6,300 o e-byst a channoedd o geisiadau am wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gyda 3,300 o ryngweithiadau pellach trwy Chatbot y cyngor, a lansiwyd yn ystod yr haf diwethaf, mae cyfanswm nifer y rhyngweithiadau wedi cyrraedd 40,000.
Yn ystod yr un cyfnod y llynedd, cyfanswm nifer y galwadau ffôn a dderbyniwyd oedd 16,901.
Ers diwedd mis Mawrth, mae'r tîm wedi derbyn llu o gyfrifoldebau ychwanegol sy'n amrywio o asesu a threfnu dosbarthiad parseli bwyd i drigolion sy'n 'gwarchod eu hunain' a chysylltu'n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru ynghylch cynllun i gysylltu â'r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau y darperir dulliau eraill o gymorth megis dosbarthu presgripsiynau, gwiriadau llesiant a gofal mewnol.
Gyda'r awdurdod lleol yn darparu oddeutu 800 o wasanaethau ar wahân a'r ffaith nad yw trigolion yn gallu cerdded i mewn i'r swyddfeydd dinesig mwyach, sefydlwyd system ffôn newydd er mwyn sicrhau bod galwadau yn gallu cael eu hateb cyn gynted â phosibl drwy gyfeirio’r sawl sy’n ffonio at y maes gwasanaeth cywir.
Pan fyddai trigolion yn ffonio'r cyngor cyn y cyfyngiadau symud, roedd ganddynt ddewis o dri opsiwn, sef gwastraff, y dreth gyngor a budd-daliadau tai. Bellach, mae ganddynt 11 opsiwn dros y ffôn.
Mae'r tîm, sydd hefyd yn cynnwys yr uned cymorth cymunedol, wedi parhau i ddarparu ei wasanaeth y tu allan i oriau, gan ddelio â galwadau ac e-byst trigolion, wrth fonitro teledu cylch cyfyng ac adrodd am unrhyw weithgareddau amheus i'r heddlu.
Er mwyn helpu i ateb y galw ychwanegol yn ystod cyfnodau prysur, mae pedwar aelod o staff wedi cael eu hadleoli o feysydd eraill er mwyn ychwanegu at y tîm, sydd bellach â 32 aelod o staff.
Yn y cyfamser mae rhai staff hefyd wedi cael eu hadleoli i'r cynllun Profi Olrhain Diogelu sydd bellach ar waith yng Nghymru, gan alw'r rheini a allai fod wedi dod i gysylltiad â phobl sydd wedi profi'n bositif am goronafeirws.
Gyda mwy na 5,000 o drigolion yn derbyn llythyrau ‘gwarchod’ gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu cynghori i ffonio ein gwasanaethau cwsmeriaid os oedd angen help a chymorth arnynt, roedd yn rhaid i staff addasu’n gyflym a sicrhau bod y prosesau cywir ar waith.
Mae wedi bod yn ymdrech enfawr gan y tîm cyfan sydd, er gwaethaf newid radical i'w ffordd o weithio, wedi parhau i sicrhau bod trigolion yn dal i dderbyn gofal trwy gydol y dydd a'r nos.
Yn ogystal â derbyn dyletswyddau ychwanegol fel cysylltu â Llywodraeth Cymru a'r cwmni sy'n gyfrifol am ddosbarthu parseli bwyd i drigolion, cael eu hyfforddi ar system a sgript newydd ac, mewn rhai achosion, cynorthwyo gwasanaethau eraill wrth iddynt wneud trefniadau ar gyfer gweithio o gartref, mae'r tîm wedi parhau i dderbyn galwadau ar gyfer ei holl feysydd arferol megis y dreth gyngor, bathodynnau glas, priffyrdd a rheoli plâu. I nifer, mae hyn wedi digwydd wrth gydbwyso gofal plant gartref a heb fod y tîm yn eistedd ochr yn ochr â nhw.
Arweinydd y cyngor, Huw David