Sicrwydd i drigolion yn sgil newid ffiniau iechyd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 21 Mawrth 2019
Bydd y cyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf o 1 Ebrill 2019, ac mae trigolion lleol yn cael eu hatgoffa na fydd y newid i'r ffin yn effeithio ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i gleifion.
Wrth drafod y mater mewn cyfarfod Cabinet heddiw (19 Mawrth), roedd uwch gynghorwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i bwysleisio...
1. Nad oes unrhyw wasanaeth yn cael ei leihau neu ei golli.
2. Bydd y ffordd y mae cleifion yn cael mynediad at eu gofal neu'n derbyn gofal yn aros yr un peth ar ôl 1 Ebrill 2019.
3. Bydd cleifion yn parhau i deithio i'r un lleoedd ag y maent yn awr i dderbyn gofal.
Rydw i am bwysleisio i drigolion lleol na fydd unrhyw newid i'r ffordd y mae unrhyw wasanaethau gofal iechyd presennol yn cael eu darparu o ganlyniad i'r newid hwn i’r ffin.
Newid gweinyddol yw hwn sy'n effeithio ar y ffordd y caiff y gwasanaethau iechyd eu rheoli. Hyd yn hyn, rydym wedi cyd-weithio gyda sefydliadau i'r gorllewin ar gyfer gwasanaethau iechyd, ac i'r dwyrain ar gyfer gwasanaethau sy'n cynnwys addysg. Bydd y newid hwn i’r ffin yn golygu y byddwn yn cydweithio fwyfwy â’r dwyrain a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
O safbwynt yr awdurdod lleol, bydd y newidiadau i’r ffin yn cael effaith ar y ffordd y bydd rhai o'n gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu hariannu a'u cynnal yn y dyfodol, felly bu’n rhaid gwneud cryn dipyn o waith yn y cefndir. Ond o safbwynt y cyhoedd, y flaenoriaeth yw darparu proses drawsnewid ddi-dor.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David
Ar 1 Ebrill 2019, bydd y ddau fwrdd iechyd yn newid eu henwau i adlewyrchu eu ffiniau daearyddol newydd. O hynny ymlaen, gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Am fanylion pellach, ewch i wefan Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.