SGGC yn dathlu pum mlynedd o gadw ein harfordir yn ddiogel
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 25 Mai 2021
Mae’r mis hwn yn nodi pum mlynedd ers i'r Sefydliad Gwylwyr y Glannau Cenedlaethol (SGGC) ddechrau gweithredu ym Mhorthcawl ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyflwyno’r allweddi i Dŵr Golygfa’r Hen Beilot.
Ers agor ym mis Mai 2016, mae’r criw wedi tyfu i gynnwys 36 o wirfoddolwyr sy’n cadw’r orsaf yn weithredol saith diwrnod yr wythnos. Ar y dechrau, roedd gan yr orsaf offer gweithredol sylfaenol fel radio, siartiau, ffonau symudol a sbienddrychau, ond nawr mae’r tŵr clyd 3.5-metr wedi’i gyfarparu â thechnoleg gyfoes.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ynghyd â chyfraniadau gan yr awdurdod lleol, Cadw a’r SGGC wedi helpu i adfer yr adeilad rhestredig gradd dau i’w hen ogoniant drwy Fenter Dreftadaeth Treflun Porthcawl.
Cafodd y ffenestri, drysau a’r to eu newid, yn ogystal ag adfer grisiau mewnol y tŵr, a gafodd ei adeiladu tua 1860.
Dywedodd Phill Styles, Rheolwr yr Orsaf: “Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi nodi dros 30,000 o oriau gwylio gwirfoddol wrth inni helpu i gadw pobl yn ddiogel ar hyd yr arfordir. Rydym wedi mynd i'r afael â 284 o ddigwyddiadau sydd wedi’u nodi, 113 a oedd angen cymorth Bad Achub RNLI, a 539 o faterion pellach bach neu wedi’u monitro.
“Rydym yn ariannu ein hunain ac mae ein holl roddion yn dod o’r gymuned leol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny. Ni fyddwn yn dathlu hyd nes y bydd cyfyngiadau Covid yn llacio ond rydym yn gobeithio dod at ein gilydd i nodi’r garreg filltir hon yn hwyrach yn y flwyddyn.
“Diolch hefyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Cadw a weithiodd gyda’r SGGC bum mlynedd yn ôl i adnewyddu’r tŵr golygfa a’i droi’n un o orsafoedd prysuraf y SGGC yn y DU.”
Llongyfarchiadau i Borthcawl SGGC ar y garreg filltir hon - mae’n wych gweld sut mae’r gwasanaeth wedi datblygu dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Diolch yn fawr iawn i’r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser i gadw’r rheiny sy’n ymweld â’n traethau ac yn hwylio ar ein harfordir yn ddiogel drwy gydol y flwyddyn.
Mae’n wych gallu defnyddio’r Tŵr Golygfa’r Hen Beilot sydd wedi’i adnewyddu eto fel rhan o adfywiad cyffredinol Porthcawl, gyda nifer o gynlluniau cyffrous eraill ar y gweill.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio