Sgamwyr yn dynwared y Maer fel rhan o'r twyll diweddaraf
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022
Mae'r Cynghorydd Martyn Jones, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o sgamwyr ar ôl i drigolyn roi gwybod iddo fod ei enw a'i swyddfa gyhoeddus yn cael eu defnyddio mewn modd twyllodrus.
Mae'r sgam yn cynnwys dynwared rhywun ac anfon e-bost at ei ffrindiau, aelodau o'r teulu, pobl maent wedi'u cefnogi drwy waith cyhoeddus neu gwsmeriaid y bu mewn â busnes o bosib.
Mae'r sgamwyr yn gofyn am 'ffafr' ac yn ceisio twyllo pobl i brynu cardiau rhodd digidol gan fasnachwyr ar-lein ynghyd ag addo y byddant yn cael eu harian yn ôl.
Daeth y sgam i sylw Maer Jones ar ôl i etholwr lleol, yr oedd wedi'i gefnogi'n ddiweddar, gysylltu ag ef. Ar ôl gweld y negeseuon gan y sgamiwr, a oedd yn gofyn i'r derbynnydd brynu pedwar cerdyn rhodd iTunes a oedd yn costio £100 yr un, roedd sawl peth yn amlwg i'r Maer yn syth.
Y peth cyntaf a sylweddolais oedd bod yr e-bost yn llawn camgymeriadau sillafu a gramadeg wael, a'i fod wedi'i lunio mewn ffordd sâl.
Rhywbeth arall a oedd yn amlwg oedd y cyfeiriad e-bost ffug, a oedd yn nodi ‘citymayor59@gmail.com’ yn hytrach na'r cyfeiriad cywir, sef ‘mayor@bridgend.gov.uk’.
Roedd hyn yn arwydd clir bod sgamiwr wrth waith, ac rwyf wedi siomi'n arw bod rhywun wedi ceisio defnyddio fy enw i a'm safle fel maer mewn modd mor ddrwgdybus. Rwy'n annog pobl i fod yn wyliadwrus, ac i adrodd am unrhyw sgamiau tybiedig i Action Fraud heb oedi.
Cynghorydd Martyn Jones, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae rhagor o wybodaeth am adrodd ar sgamiau ar gael yn www.actionfraud.police.uk.