Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sesiynau ymgynghori cyhoeddus ar gynlluniau mawr newydd i fferm wynt

Mae preswylwyr cyngor bwrdeistref Pen-y-Bont ar Ogwr wedi eu gwahodd i fynychu ymgynghoriad cyhoeddus i drafod fferm wynt newydd ar y tir.

Mae’r datblygiad fferm wynt, sy'n cynnwys 21 tyrbin, o’r enw Y Bryn, yn cael ei gynnig gan y cwmnïau ynni, Coriolis Energy ac ESB.

Byddai’n cael ei rannu rhwng dau floc coedwigaeth rhwng cymoedd Llynfi ac Afan ar dir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ac yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nawr ymgynghorir â'r cyhoedd mewn nifer o sesiynau rhithiol wyneb yn wyneb wrth i’r prosiect symud ymlaen i'r cam nesaf. Gan fod peth o’r tir datblygu yn gorwedd o fewn ffiniau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, trefnwyd arddangosfeydd cyhoeddus yn y ddwy ardal i helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r cynigion:

  • Dydd Llun, 1 Tachwedd – Canolfan Gymunedol Bryn, Ffordd Maesteg, Bryn (SA31 2RY) rhwng 2pm-7pm
  • Dydd Mawrth, 2 Tachwedd – Clwb Athletau Cefn Cribwr, Cae Gof, Cefn Road, Cefn Cribwr (CF32 0BA) rhwng 2pm-7pm
  • Dydd Mercher, 3 Tachwedd – Canolfan Gymunedol Cwmafan, Heol Depot, Cwmafan (SA12 9BA) rhwng 2pm-7pm
  • Dydd Gwener, 5 Tachwedd – Canolfan Chwaraeon Maesteg, Safle'r Hen Efail, Nant-y-Crynwydd, Maesteg (CF34 9DS) rhwng 2pm-7pm
  • Dydd Sadwrn, 6 Tachwedd – Canolfan Gymunedol Taibach, Ffordd Duke, Taibach SA13 1NA rhwng 12pm-4pm

Gellir cael mynediad i ymgynghoriad rhithiol, rhyngweithiol trwy’r wefan Y Bryn Windfarm.

Yn dilyn ymgynghoriad cynharach yn yr haf, gwnaed nifer o newidiadau i’r datblygiad gan gynnwys lleihau’r nifer o dyrbinau arfaethedig o 26 i 21, lleihau uchder yr holl dyrbinau yn y bloc Penhydd gogleddol ac adleoli rhai tyrbinau er mwyn lleihau effeithiau lleol penodol.

Y mae’n bwysig bod cynifer o drigolion yn parhau i leisio eu barn ar y prosiect yma yn y sesiynau cyhoeddus a rhithiol sydd i ddod.

Er nad yw’n brosiect arfaethedig gan yr awdurdod lleol, rydym yn awyddus i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad gan fod y prosiect hwn yn debygol o esblygu dros amser.

Os bydd yn llwyddiannus, mae’r cynllun sylweddol hwn yn addo darparu digon o ynni glân i bweru mwy na 125,000 o gartrefi. Fodd bynnag fe fydd effaith weledol sylweddol gan fod y prosiect yn cynnwys hyd at 21 tyrbin a seilwaith cysylltiedig megis cyfleusterau storio batri, is-orsafoedd a thraciau mynediad.

Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Gan y bydd y prosiect yn darparu dros 10MW o ynni gwynt, bydd yn cyflawni Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac felly bydd rhaid gwneud cais i Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru, a fydd wedyn yn argymell Gweinidogion Cymru ar ba un ai a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect, ewch i wefan Y Bryn Windfarm.

Chwilio A i Y