Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Scott yr arwr rygbi yn llwyddiant mawr ym mrecwast y fforwm busnes

Un o arwyr y byd rygbi yng Nghymru, Scott Quinnell, oedd y gwestai anrhydeddus yn nigwyddiad brecwast blynyddol Dydd Gŵyl Dewi Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. Diddanodd ddwsinau o bobl fusnes leol gyda straeon diddorol am ei brofiadau, ar ac oddi ar y cae.

Brwydrodd dwsinau o aelodau’r fforwm drwy’r eira i ymgynnull yng Ngwesty Coed-Y-Mwstwr yn Llangrallo i wneud amrywiaeth o gysylltiadau busnes newydd. Cawsant gyfle i glywed straeon Scott am y gemau mae wedi chwarae ynddynt, y ceisiau mae wedi’u sgorio a’r chwaraewyr a’r arwyr chwaraeon mae wedi’u cyfarfod ar ei siwrnai.

Gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig llais ar y cyd i fusnesau lleol o bob maint a sector yn y fwrdeistref sirol.

Roedd y brecwast Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle defnyddiol arall i fusnesau lleol ddod at ei gilydd a dathlu llwyddiant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd pob tocyn wedi’i werthu ac fe wnaeth pawb oedd yn bresennol fwynhau clywed Scott Quinnell yn siarad yn agored am yr anawsterau wnaeth eu goresgyn yn ystod ei yrfa. Rwy’n siŵr y bydd penderfyniad Scott i lwyddo’n broffesiynol ac yn bersonol yn ysbrydoliaeth i westeion gyflawni eu dyheadau busnes eu hunain.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau.

Dywedodd Cadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, Ian Jessopp: “Roedd brecwast busnes Dydd Gŵyl Dewi’n gyfle rhwydweithio gwych ac roedd yn grêt gweld cymaint o fusnesau lleol wedi dod at ei gilydd. Er bod y Dihiryn o’r Dwyrain yn achosi trafferthion mawr y tu allan, fe gawsom ni glywed straeon y Gorau o’r Gorllewin, Scott Quinnell.

“Fe hoffwn i ddiolch i Scott am rannu ei brofiadau gyda ni a hefyd fe hoffwn i ddiolch i’n prif noddwyr ni, Baldwins Accountants, yn ogystal â noddwr cofrestru’r digwyddiad, Aevitas, a KK Solutions. Rwy’n edrych ymlaen at lawer mwy o ddigwyddiadau llwyddiannus gyda’r fforwm yn ystod y misoedd sydd i ddod.”

Ychwanegodd Matthew Curzon o Curzon Wealth Management: “Fe wnes i wir fwynhau’r digwyddiad. Roedd Scott Quinnell yn ddifyr iawn fel bob amser ac roedd yn gyfle gwych i sgwrsio gyda phobl fusnes debyg i mi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn sicr byddaf yn mynd i’r digwyddiad nesaf ac yn annog pobl fusnes broffesiynol eraill i ddod hefyd.”

Ceir rhagor o fanylion am ddod yn aelod o Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill ar wefan Fforwm Busnes Pen-y-bont.

Hefyd gallwch sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf drwy hoffi ‘Bridgend Business Forum’ ar Facebook, neu ddilyn @BridgendForum ar Twitter.

Chwilio A i Y