Scott Quinnell yw siaradwr gwadd y digwyddiad brecwast busnes
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Mawrth 2018
Seren rygbi Cymru Scott Quinnell fydd y siaradwr gwadd ym mrecwast busnes Dydd Gŵyl Dewi blynyddol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau 1 Mawrth.
Cynhelir y digwyddiad yng ngwesty Coed-y-Mwstwr yn Llangrallo a bydd yn gyfle gwych i fusnesau lleol rwydweithio wrth gael eu diddanu gan un o arweinwyr chwaraeon gorau’r wlad.
Yn ogystal â hel atgofion am hanesion di-ri o rygbi anhygoel, bydd Quinnell yn trafod ei drafferthion â dyslecsia hefyd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n gweithredu dros fusnesau lleol o bob maint ac o bob sector yn y fwrdeistref sirol.
Dywedodd cadeirydd y fforwm, Ian Jessopp: “Rwy’n edrych ymlaen at ddigwyddiad eleni. Mae bob amser yn fore gwych o ddathlu llwyddiannau busnesau lleol ledled y fwrdeistref sirol ac mae’n gyfle arbennig i’r bobl sy’n bresennol wneud cysylltiadau busnes newydd. Rwy’n siŵr y bydd y gymysgedd fydd gan Scott o chwaraeon, busnes a gwaith elusennol yn ein diddanu yn ogystal â’n hysbrydoli ni.”
Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn sy’n helpu cwmnïau lleol i dyfu a ffynnu.
Mae’r digwyddiad brecwast ar Ddydd Gŵyl Dewi yn sicr yn un na ddylech ei fethu. Mae Scott Quinnell yn siaradwr gwych ac mae ganddo gymaint o brofiadau ysbrydoledig i’w rhannu. Mae’n Gymro i’r carn, ac felly’n siaradwr gwadd delfrydol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
Yn ogystal â’r cwmni da, bydd y digwyddiad yn cynnwys brecwast Cymreig llawn, felly mae digon i edrych ymlaen ato!
Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio.
Prif noddwr y digwyddiad yw Cyfrifwyr Baldwins a fydd yn bresennol, yn ogystal â noddwr cofrestru’r digwyddiad Aevitas, a KK Solutions.
Cost tocynnau unigol ar gyfer brecwast busnes Dydd Gŵyl Dewi fydd £21 + TAW a bydd yn rhaid trefnu eich lle ymlaen llaw. Cewch gyrraedd o 8am ymlaen a bydd y digwyddiad yn dechrau am 8:30am ac yn gorffen am 9:30am. Anfonwch neges e-bost i business@bridgend.gov.uk i drefnu lle.
I gael rhagor o wybodaeth am Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Mary Pope ar 01656 815320 mary.pope@bridgend.gov.uk neu ewch i wefan Fforwm Busines Pen-y-bont ar Ogwr.
Cewch hefyd ddilyn @BridgendForum ar Twitter neu hoffi ‘Bridgend Business Forum’ ar Facebook i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad.