Safleoedd posibl wedi’u cyhoeddi ar gyfer mannau gwefru trydanol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 02 Tachwedd 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) wedi cyhoeddi’r holl safleoedd posibl sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer seilwaith gwefru cerbydau trydanol.
Mae pob lleoliad yn cael ei asesu ar hyn o bryd, a nifer o amodau’n cael eu hystyried, yn amrywio o gyflenwadau Western Power, gweithio gyda phartneriaid a gofynion cynllunio.
Fel rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae cyllid o £2.87 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer gosod mannau gwefru trydanol mewn ystod o leoedd cyhoeddus ledled y rhanbarth. Mae’r safleoedd sy’n cael eu hystyried ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dan y cynllun yn cynnwys:
- Maes Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Pencoed
- Maes Marcio Aml-lawr Maesteg
- Maes Parcio Aml-lawr Rhiw, Pen-y-bont ar Ogwr
- Meysydd Parcio ar Lefel y Stryd, Stryd Bracla
- Maes Parcio Stryd John, Porthcawl
- Datblygiad Llyn Halen Porthcawl
- Canolfan Arloesedd Pen-y-bont ar Ogwr
- Maes Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd y Pîl
- Maes Parcio Heol Tondu
- Maes Parcio Heol Tremains
- Heol Castell-nedd, Maesteg
- Maes Parcio Hillsboro Place, Porthcawl
- West Drive/ Mallards Way (ymyl y ffordd) Porthcawl
- Promenâd y Dwyrain (ymyl y ffordd) Porthcawl
Yn y cyfamser, fel rhan o grant gwerth £462,000 gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) Llywodraeth Cymru, a £300,000 ychwanegol i helpu i gefnogi’r awdurdod lleol ddatgarboneiddio ei gerbydau gwasanaeth, mae cynlluniau i osod mannau gwefru mewn rhagor o feysydd parcio, gweithleoedd a lleoedd cyhoeddus.
Nod y prosiect yw bodloni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwefru trydanol yng Nghymru, sef, erbyn 2025, bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydanol yng Nghymru yn hyderus eu bod yn medru cael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydanol pryd bynnag, a lle bynnag, maent ei angen. Mae’r safleoedd posibl sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Chilcott Avenue, Brynmenyn
- Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Depo Bryncethin a Depo Tondu
- Maes Parcio Neuadd Fowlio Pen-y-bont ar Ogwr
- Canolfannau Hamdden Halo - gan gynnwys Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Canolfan Bywyd Cwm Ogwr, Canolfan Bywyd Cwm Garw, Canolfan Chwaraeon Maesteg, Pwll Nofio y Pîl, Pwll Nofio Ynysawdre a Phwll Nofio Pencoed
Fel rhan o’n strategaeth ddatgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030, rydym yn croesawu’r cam cyntaf hwn o gymorth cyllid ac yn edrych ymlaen at ychwanegu rhagor o fannau gwefru cerbydau trydanol yn y fwrdeistref sirol i gefnogi ein darpariaeth gwasanaeth a’n cymunedau.
Mae nifer yr ymholiadau gan y cyhoedd ynghylch gosod seilwaith gwefru cerbydau trydanol yn cynyddu, ac rydym yn datblygu strategaeth ar draws y sir; rydym ond yn megis dechrau gyda’r safleoedd cyntaf hyn. Ar ôl i’r safleoedd posibl gwblhau’r broses asesu, byddwn yn cyhoeddi’r rhestr derfynol, felly cadwch lygad allan am ragor o fanylion cyn bo hir.
Dywedodd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet y cyngor dros Gymunedau