Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Safbwyntiau ynghylch y posibilrwydd o ad-drefnu addysg ôl-16 yn cael eu rhannu

Bydd y posibilrwydd o ad-drefnu addysg ôl-16 ym Mwrdeistref Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys cadw chweched dosbarth ysgolion ar ryw ffurf.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar chwe syniad posibl ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 wedi dod i ben bellach. Roedd trigolion lleol wedi mynegi’n glir eu bod yn erbyn unrhyw opsiwn a fyddai’n golygu cau chweched dosbarth ysgolion a datblygu canolfan chweched dosbarth ar gyfer y sir gyfan.

Cadw’r system chweched dosbarth ysgolion sy’n bodoli’n barod fyddai dewis cyntaf y miloedd o ddisgyblion, athrawon, rheini a llywodraethwyr a gyfrannodd at yr ymgynghoriad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn para tri mis.

Ond, roedd yr ymatebwyr yn derbyn nad oedd y system bresennol heb ei bai, a byddent yn croesawu gwelliannau i helpu i sicrhau bod y ddarpariaeth yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Y syniadau mwyaf poblogaidd ar ôl hynny yn yr ymgynghoriad oedd cadw chweched dosbarth mewn ysgolion, ond bod rhai ohonynt yn uno i greu un neu ragor o ganolfannau chweched dosbarth newydd y gallai naill ai’r awdurdod lleol neu goleg addysg bellach eu rheoli.

Ar hyn o bryd, mae chweched dosbarth ym mhob ysgol uwchradd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n amrywio o ran maint o 76 i 347 o ddisgyblion.

Ar ôl ystyried adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad yr wythnos hon, mae Aelodau Cabinet y cyngor wedi cytuno i roi’r syniadau lleiaf poblogaidd o'r neilltu, a mynd ati i ddadansoddi'r opsiynau a oedd yn cael eu ffafrio fwyaf gan y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Dyma’r opsiynau…

Opsiwn A: Cadw chweched dosbarth ym mhob ysgol.
Opsiwn B: Model cymysg, gyda rhai ysgolion yn cynnwys chweched dosbarth ac un neu ragor o ganolfannau chweched dosbarth.

Rhieni oedd yn cyfrif am 59% o’r 322 o arolygon ar-lein a gwblhawyd yn ystod yr ymgynghoriad, a llwyddodd y sesiynau gweithdy a gynhaliwyd ym mhob ysgol uwchradd i gasglu safbwyntiau dros 2,000 o fyfyrwyr.

Hoffwn ddiolch i bawb a lenwodd yr arolwg ar-lein, a gymerodd ran yn y gweithdai neu a aeth i gyfarfod cyhoeddus i drafod y pwnc hollbwysig hwn. Rydym yn adolygu a ddylid newid y ddarpariaeth bresennol i sicrhau bod dysgwyr ifanc yn cael y cyfleoedd gorau i ragori, ac rydym am gynnwys dysgwyr, staff, rhieni a llywodraethwyr ym mhob cam o'r broses.

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu un grant ôl-16 ar gyfer addysg chweched dosbarth bob blwyddyn. Yn anffodus, oherwydd y cyni cenedlaethol, mae’r pot hwn o arian yn mynd yn llai ac yn llai yn raddol. Felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n defnyddio’r adnoddau prin sydd gennym mor fentrus, mor effeithlon ac mor greadigol â phosibl. Yn ddiddorol, er bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad o blaid cadw a gwella’r system chweched dosbarth bresennol, dau o’r dyheadau mwyaf poblogaidd ar gyfer addysg ôl;-16 oedd cael gwell dewis o ran pynciau ac adnoddau cyfartal ar draws pob pwnc.

Byddai modelau chweched dosbarth amgen yn darparu’r ddau ganlyniad hwn yn well, oherwydd y posibilrwydd o arbedion maint. Felly, yn ystod cam nesaf ein hadolygiad, byddwn yn edrych yn ofalus ar y gwahanol bosibiliadau y mae’r syniadau mwyaf poblogaidd yn eu cynnig, cyn gwneud argymhellion pellach a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus arall.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Ychwanegodd y Cynghorydd Smith: “Pa bynnag fodel a ddewisir yn y pen draw, mae’n debyg y bydd ‘dysgu cyfunol’, sy’n cynnwys cymysgedd o ddysgu ar-lein a dulliau dysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth, yn cael ei ehangu. Cafwyd llawer o ymatebion cadarnhaol i’r awgrym hwn yn yr ymgynghoriad.

“A ninnau’n byw yn yr 21ain ganrif, gall ‘canolfan chweched dosbarth’ fod yn ofod ffisegol, ond gall hefyd fod yn ofod rhithiol. Rwy’n credu y bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau gyda’i thraddodiad hir o ddarparu chweched dosbarth mewn ysgolion, ond bydd gwneud hynny mewn ffordd wahanol. Bydd ein hysgolion yn cydweithio mewn partneriaeth â’i gilydd ac â darparwyr ôl-16 eraill.”

Chwilio A i Y