Safbwynt cymunedol yn erbyn y coronafeirws 'yn bwysicach nag erioed'
Poster information
Posted on: Dydd Iau 10 Medi 2020
Wrth i achosion positif o COVID-19 gynyddu ar draws de Cymru, mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog trigolion i gymryd camau cadarnhaol a dod ynghyd fel un gymuned i frwydro yn erbyn pandemig y coronafeirws.
Gan weithio gyda phartneriaid fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, mae'r cyngor yn ystyried amrediad o fesurau newydd i geisio atal lledaeniad y feirws.
Mae eisoes wedi cyhoeddi cyfyngiadau ar drefniadau ymweld â chartrefi gofal lleol er mwyn diogelu preswylwyr sy’n agored i niwed, ac mae’n atgoffa pobl fod trefnwyr Gŵyl Elvis Porthcawl wedi canslo'r digwyddiad sydd fel arfer yn cael ei gynnal ar benwythnos 25 i 27 Medi.
Mae'r camau gweithredu pellach sy’n cael eu hystyried yn cynnwys gwisgo gorchuddion wyneb sydd â thair haen yn y gweithle, mewn siopau a mannau cyhoeddus poblog, ac annog pobl dim ond i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw’n gwbl angenrheidiol, parhau i weithio o gartref cyn belled ag y bo modd, a mwy.
Gyda chyfyngiadau symud eisoes ar waith mewn un ardal leol a phryderon y bydd angen mwy o gyfyngu ar ein symudiadau yn ne Cymru, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dod ynghyd fel un gymuned i gyflwyno un ymateb cryf yn erbyn y coronafeirws. Mae'r mwyafrif helaeth o'n trigolion wedi gwneud popeth y gofynnwyd iddynt wneud er mwyn diogelu'u hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau a hoffwn ddiolch i'n trigolion am eu dealltwriaeth, cydweithrediad a chefnogaeth.
Rydym bellach angen sicrhau ein bod yn cadw’n wyliadwrus - nid yw'r pandemig wedi dod i ben o bell ffordd, ac fel y gwelwyd yn y cynnydd mewn achosion ledled y rhanbarth yn ddiweddar, nid yw COVID-19 wedi diflannu’n llwyr. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gweithredu mewn modd synhwyrol ac fel un gymuned er mwyn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Mae'r canllawiau cenedlaethol ar waith i'n diogelu ni i gyd, a sicrhau nad ydym yn dod i gysylltiad â’r feirws na’i drosglwyddo i eraill. Fel cymuned, rhaid sicrhau ein bod yn dilyn y cyngor hwn yn llym, a sicrhau ein bod yn parhau i olchi'n dwylo a defnyddio hylif diheintio'n gyson, cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr, gorchuddio'n cegau mewn mannau poblog a chofio peidio â chyffwrdd a'n hwynebau.
Os ydych yn datblygu tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu'n sylwi ar newid i'ch synnwyr arogl a blas, cofiwch gael prawf ar gyfer y coronafeirws cyn gynted â phosibl. Hanner y frwydr yw mabwysiadu'r ymddygiad cywir, ac mae hyn yn rhywbeth y gallwn oll ei wneud. Rwy'n wir obeithio na fydd cynnydd pellach yn nifer yr achosion yn y fwrdeistref sirol, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl bod y cyngor a'i bartneriaid yn barod i weithredu a chymryd camau pellach er mwyn ceisio atal ei ledaeniad. Rydym yn monitro'r digwyddiadau'n agos iawn, a byddwn yn annog ein trigolion i gadw llygad allan am fwy o gyhoeddiadau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Dywedodd yr arweinydd, Huw David