Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

RNLI i batrolio traethau Porthcawl tan o leiaf 2021

Cytunwyd y bydd achubwyr bywydau'r RNLI yn parhau i batrolio pedwar o draethau Porthcawl hyd at haf 2021.

Bydd gwasanaeth achub bywydau tymhorol yr RNLI ar gyfer traethau yn gofalu am Draeth Coney, Bae Rest, Bae Treco a Pink Bay.

Bydd y patrolau yn cael eu hariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Tref Porthcawl a chwmni gwyliau Parkdean Resorts, a bydd yr RNLI yn talu’r costau ychwanegol drwy eu gweithgareddau codi arian lleol a chenedlaethol.

Mae gweld achubwyr bywydau ar ddyletswydd ar y traeth yn tawelu meddwl ymwelwyr. Rydym ni wedi cydweithio â’r RNLI ers haf 2016 ac rydym yn falch iawn bod y drefn yn parhau. Credwn fod cael achubwyr bywydau proffesiynol yn bresennol yn angenrheidiol i gadw Porthcawl ar frig y rhestr atyniadau i ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau

Bydd patrôl ym Mae Rest, Traeth Coney a Bae Treco rhwng 10am a 6pm bob dydd tan ddiwedd y tymor ar 2 Medi, a bydd achubwyr bywydau yn patrolio Pink Bay o Fae Rest pan fydd y llanw yn caniatáu hynny. Pan fydd y llanw yn atal mynediad i Pink Bay, bydd yr achubwyr bywydau yn patrolio’n rheolaidd ar y tir.

Atgoffir y rhai sy’n gwirioni ar hwyl a haul ac sy’n heidio i draethau Porthcawl yn ystod gwyliau’r ysgol i wrando’n ofalus ar rybuddion diogelwch yr achubwyr bywydau.

Mae Matt Childs, Goruchwyliwr Achubwyr Bywydau’r RNLI yn disgwyl y bydd tîm Porthcawl yn cael tymor prysur arall. Dywedodd: “Gall yr ardal hon ymffrostio yn ei thraethau hyfryd, ond byddwn yn annog pawb sy’n ystyried taith i’r traeth i ymweld â thraeth sydd ag achubwr bywydau yn bresennol ac i nofio rhwng y baneri coch a melyn bob tro.”

Yn ddiweddar lansiodd yr RNLI ei ymgyrch atal boddi, Parchwch y Dŵr, gyda chyngor i bobl a allai gael eu hunain mewn dŵr oer yn annisgwyl. Nid oedd y rhan fwyaf o’r bobl a fu farw ar arfordir y DU yn bwriadu mynd i’r dŵr o gwbl ac mae’r RNLI yn annog unrhyw un sy’n disgyn i ddŵr oer i beidio ag ymateb yn reddfol ond i gofio un peth – arnofio – gallai hyn arbed bywydau.

Dywedodd Matt: “Rydym yn aml yn dibynnu ar ein greddfau ond mae ein hymateb greddfol pan awn i ddŵr oer yn ddirybudd – ebychu, corddi’r dŵr a nofio’n galed – yn debygol o ladd. Mae’n ei gwneud hi’n haws i ddŵr fynd i’r ysgyfaint, yn rhoi mwy o straen ar y galon, yn oeri’r croen hyd yn oed yn fwy ac yn gadael i aer ddianc o’r dillad sy’n gwneud arnofio’n anos.

“Er ei bod yn groes i unrhyw reddf, y peth gorau i’w wneud yn syth mewn sefyllfa fel hon yw ymladd yn erbyn eich greddf a cheisio arnofio neu orffwys am gyfnod byr. Bydd effaith dŵr oer yn diflannu’n weddol gyflym, o fewn 60-90 eiliad. Bydd arnofio am gyfnod byr fel hyn yn eich galluogi i reoli eich anadlu unwaith eto a bydd eich siawns o oroesi yn cynyddu’n fawr.

“Ein nod yw haneru nifer y marwolaethau damweiniol ar ein harfordir erbyn 2024.”

I gael mwy o wybodaeth a chyngor ynghylch pob agwedd ar ddiogelwch traeth ac arfordir ewch i wefan ymgyrch Parchwch y Dŵr yr RNLI.

Mae achubwyr bywydau’r RNLI yn patrolio 38 o draethau ledled Cymru'r haf hwn. Ymatebodd achubwyr bywydau i 1,075 o ddigwyddiadau yng Nghymru y llynedd ac fe achubwyd neu fe roddwyd cymorth i 1,219 o bobl.

Chwilio A i Y