Rhybuddion rhag llifogydd ar waith wrth i ysgolion gau yn gynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 28 Chwefror 2020
Mae rhybudd ‘melyn’ ar waith ar gyfer glaw trwm ar draws y rhanbarth, ac mae nifer o ysgolion lleol wedi cau yn gynnar heddiw (dydd Gwener 28 Chwefror).
Mae rhybudd rhag llifogydd – a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru – hefyd ar waith ar gyfer Afon Ewenni yng Nghwrt Gwilym, Pencoed, a Phentref Ewenni.
Mae’r ysgolion sydd wedi cau yn cynnwys Ysgol Gynradd Abercerdin, Ysgol Gynradd Croesty, CCYD, Pencoed Comprehensive School, Ysgol Gynradd Betws, Ysgol Gynradd Blaengarw, Ysgol Gynradd Nantymoel, Ysgol Gynradd Bracla, The Bridge, Ysgol Gynradd Llangynwyd, Ysgol Gynradd Cefn Cribwr, Ysgol Gynradd Caerau ac Ysgol Gynradd Bryncethin.
Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr wedi cau yn gynnar hefyd.
Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin Primary ac Ysgol Gyfun Maesteg wedi rhoi rhybudd ar waith a byddant yn gwneud penderfyniad cyn hir.
Mae’r glaw trwm sy’n gysylltiedig â Storm Jorge bellach yn effeithio ar yr ardal ac mae’r rhagolygon yn dangos bydd y glaw yn para tan 5am ddydd Sadwrn, 29 Chwefror. Mae galwadau yn dod i mewn o bob rhan o’r sir ynghylch problemau sy’n deillio o’r glaw trwm a’r tywydd gwael, ac rydym yn annog pawb i gymryd gofal pan fyddant ar y ffyrdd. Mae nifer o’n hysgolion wedi cau amser cinio heddiw.
Mae timau’r priffyrdd a’r gwasanaethau tân yn Ffordd Llangeinor, Cwm Garw ar hyn o bryd, ac mae’r ffordd ar gau oherwydd y llifogydd.Rydyn ni’n monitro lefelau’r afonydd ar draws y sir, yn cynnwys canol tref Pen-y-bont ar Ogwr lle rydyn ni’n barod i godi’r fflodiart os bydd angen.
Bydd ein staff yn gweithio ddydd a nos i helpu i gadw’r fwrdeistref yn ddiogel ac yn symud, ac mae trefniadau wedi’u gwneud fel bod staff, offer, jac codi baw, a gweithwyr llifiau cadwyn i fod wrth law ar gyfer nos Wener a dydd Sadwrn
arweinydd y Cyngor, Huw David
Mae bagiau tywod yn cael eu dosbarthu i drigolion a busnesau ar draws y sir.
Ymhlith y ffyrdd yr effeithiwyd arnynt gan y glaw trwm mae:
- Heol Wil Hopcyn, Maesteg
- Ffordd Maesteg, Cwmfelin
- Ffordd Betws, Pen-y-bont ar Ogwr
- Teras Nantyffyllon, Nantyffyllon
- Ffordd Felindre Road, ger Clwb Golff y Santes Fair
- A4061 ym Mryncethin
- Lon Heronston, Ewenni
- B4280 Heol-y-Cyw
- Ffordd Blackmill, Bryncethin
- Ffordd Bryn, Ynysawdre
- A4063 Ffordd Maesteg
- Y Brif ffordd, Llangrallo
- Mae’r bont drochi ar ffordd The New Inn wedi cael ei chau ym Merthyr Mawr