Rhybuddio gyrwyr am oedi posibl oherwydd bod tyrbinau gwynt yn cael eu danfon
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 31 Ionawr 2020
Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl oedi hir tra bydd tyrau, llafnau ac offer arall cysylltiedig â thyrbinau gwynt yn cael eu cludo drwy rannau o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ddechrau mis nesaf.
Byddant yn cael eu danfon mewn cyfres o lwythi annormal a fydd yn teithio dan arweiniad Heddlu De Cymru o gyffordd 37 yr M4 yn y Pîl i safle Ynni Adnewyddadwy Cenin yn Stormy Down.
Disgwylir i'r nwyddau gael eu danfon rhwng 3 a 14 Chwefror, a bydd y cerbydau cludo mor fawr nes bydd angen tynnu rhannau o’r rhwystr canolog ar yr A48 i’w galluogi i droi ar draws y ddwy lôn i Stormy Lane.
Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd cyfyngiadau cyflymder a mesurau cau lonydd ar waith ar hyd yr A48 yn Stormy Down, a rhybuddir gyrwyr i ddisgwyl oedi posibl rhwng Cyffordd 37 yr M4 yn y Pîl a chyffordd A48 / A473 yn Nhrelales.
Gallai hyn effeithio ar y lonydd sy'n arwain at y ganolfan ailgylchu gymunedol yn Llandudwg hefyd.
Er nad yw hyn yn rhywbeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymwneud yn uniongyrchol ag ef, byddwn yn cefnogi Heddlu De Cymru wrth iddynt hebrwng y llwythi annormal drwy’r ardal i safle Cenin yn Stormy Down.
Bydd y cerbydau danfon yn symud yn araf oherwydd maint enfawr y tyrbinau, y llafnau a'r offer, ond bydd hyn yn digwydd yn ystod oriau tawel er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar drigolion yr ardal.
Rydyn ni’n cyhoeddi'r manylion danfon nwyddau nawr er mwyn rhoi digon o amser i yrwyr wneud trefniadau eraill.
Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau