Rhybuddio cwsmeriaid bar y gallent fod wedi dod i gysylltiad â Covid-19
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Gorffennaf 2021
Mae Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn cysylltu â phobl a ymwelodd â’r Eden Bar and Lounge ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf ar ôl i nifer o bobl a oedd ar y safle y diwrnod hwnnw gael profion coronafeirws positif.
Os ydych chi’n un o’r cysylltiadau, bydd y tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn cysylltu â chi cyn bo hir i roi cyngor a chanllawiau pellach ichi.
Yn achos cwsmeriaid a ymwelodd â bar Eden ar Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr ar y dyddiad hwnnw ac sy’n arddangos neu’n datblygu symptomau fel gwres, peswch parhaus neu ryw newid yn eu synnwyr blasu neu arogleuo, ni ddylent fynd i’w meddygfa, i’r fferyllfa neu i’r ysbyty.
Yn hytrach, dylent hwy a holl aelodau’r aelwyd hunanynysu’n syth, a threfnu prawf ar-lein ar https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119.
Pe baech angen cyngor meddygol, ffoniwch eich meddyg teulu a gadewch iddo wybod eich bod wedi ymweld â’r safle’n ddiweddar ar yr un pryd â rhywun arall sydd bellach wedi cael prawf Covid-19 positif.
Os nad oeddech ar y safle ar y diwrnod hwnnw, ond os ydych yn teimlo’n gyffredinol sâl, gallwch ofyn am brawf i gadarnhau nad ydych yn dioddef o’r coronafeirws.
Rydym yn annog pawb a oedd yn yr Eden Bar and Lounge ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf, ac sydd wedi dechrau dangos symptomau, i hunanynysu a chael prawf er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn rhwystro Covid-19 rhag lledaenu.
Rydym yn gweld cynnydd mawr mewn achosion ledled y fwrdeistref sirol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc dan 25 oed. Nid yw llawer o’r bobl ifanc hyn wedi cael eu brechiad cyntaf eto, ac rydym yn eu hannog i fod rhagofalus er mwyn rhwystro’r feirws rhag lledaenu.
Mae gweithdrefnau ar waith i gynorthwyo pawb sy’n cael prawf positif. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy edrych ar y dudalen coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol
Mae profion symudol yn dal i fod ar gael, a cheir cyfleuster profi drwy ffenest y car yn Oakwood Drive, Maesteg rhwng 9am-5pm, yn ogystal â chanolfan brofi galw i mewn yn y Neuadd Fowlio yn Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 2pm-8pm. I ddefnyddio’r safleoedd hyn, rhaid ichi drefnu apwyntiad ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119. Os oes gennych anawsterau o ran clywed neu siarad, gallwch ffonio 18001119 i drefnu apwyntiad.