Rhybuddio am goelcerthi mewn gerddi
Poster information
Posted on: Dydd Iau 09 Ebrill 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhybuddio trigolion am beryglon llosgi sbwriel cartref a gwastraff gardd yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud y pandemig coronafeirws.
Mae pryderon y gall pobl ddefnyddio’u hamser gartref i wacáu siediau a garejis neu wneud garddio, a chael eu temtio i adeiladu coelcerthi bychain i gael gwared ar y gwastraff yn hytrach nag aros nes bod y canolfannau ailgylchu cymunedol ym Mrynmenyn, Maesteg a Tythegston yn cael eu hailagor.
Gall hyd yn oed tanau bychain, dan oruchwyliaeth fod yn anrhagweladwy a gallant ledu’n gyflym allan o reolaeth, gan olygu bod adnoddau diffodd tanau’n cael eu dargyfeirio o’r ymdrechion rheng flaen i fynd i’r afael â’r pandemig COVID-19 ar draws cymunedau de Cymru.
Mae problemau iechyd hefyd yn gysylltiedig â’r mwg sy’n dod o goelcerthi, gan gynnwys problemau anadlol i gymdogion – mae’r cyngor gan y llywodraeth i bobl â symptomau neu sy’n gwella yn y cartref ar ôl dioddef o’r coronafeirws yn cynnwys cadw ffenestri ar agor.
Er bod ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd wedi dod i ben am y tro o ganlyniad i’r pandemig sy’n mynd rhagddo, mae casgliadau sbwriel ac ailgylchu wythnosol yn parhau yn ôl yr arfer. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar swm y gwastraff ailgylchu y gallwch ei roi allan, felly rydym yn annog trigolion i waredu ar eu gwastraff mewn modd cyfrifol ac ecogyfeillgar.
Mae compostio’n ffordd dda iawn o gael gwared ar wastraff gardd, a gallwch hefyd storio neu bentyrru eitemau nad oes modd eu compostio neu eu hailgylchu nes bod y pandemig yn dod i ben a bod y canolfannau ailgylchu cymunedol yn cael eu hailagor.
Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i helpu i ddiogelu ein diffoddwyr tân, y GIG a’n cymunedau lleol yn y ffordd orau a allwn yn ystod y pandemig, ac un o’r ffyrdd y gallwn wneud hyn yw drwy beidio â chynnau tanau yn ein gerddi.
Meddai Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol