Rhybudd ynghylch ailgylchu canisterau nwy
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 31 Gorffennaf 2018
Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu rhybuddio i beidio â rhoi unrhyw ganisterau nwy, fel y rheini a ddefnyddir wrth wersylla, yn eu bagiau ailgylchu nac mewn bagiau bin ar gyfer casgliadau wrth ymyl y ffordd.
Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, cafwyd sawl tân bach yng nghanolfan Kier yn Nhondu gan fod canisterau nwy wedi ffrwydro wrth gael eu cywasgu gyda deunyddiau eraill.
Wrth i’r tywydd poeth anhygoel hwn barhau, mae mwy a mwy o drigolion yn bwyta yn yr awyr agored ac yn defnyddio poptai nwy cludadwy, sy’n gyffredin wrth wersylla a charafanio. Yn anffodus, nid yw’r canisterau nwy a ddefnyddir yn y poptai hyn, yn addas i’w hailgylchu wrth ymyl y ffordd.
Ar ôl i’r plastigau a’r metelau gael eu casglu, cânt eu cywasgu yn y ganolfan ailgylchu cyn eu prosesu ymhellach. Mae olion nwy propan neu bwtan yn y canisterau nwy hyn, sy’n golygu ei bod yn beryglus iawn eu cywasgu gyda deunyddiau llosgadwy.
y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yn hytrach na rhoi canisterau nwy allan i’w hailgylchu, rydym ni’n cynghori trigolion i fynd â nhw i’r Canolfannau Ailgylchu Cymunedol ym Maesteg, Llandudwg a Brynmenyn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Williams: “Oherwydd bod y bagiau bin hefyd yn cael eu cywasgu yng nghefn y cerbydau sbwriel, y lle mwyaf diogel i fynd â chanisterau nwy yw eich Canolfan Ailgylchu Gymunedol leol.”
Mae’r cyngor hefyd yn dymuno atgoffa trigolion y GALLANT ailgylchu tuniau diaroglyddion aerosol ac aerosolau cartref eraill megis ffresnydd aer, drwy eu rhoi yn y sach ailgylchu glas gyda phlastigau a metelau.
Fodd bynnag, NID yw cynhwysyddion chwistrell paent aerosol na farneisiau aerosol yn addas i’w hailgylchu mewn casgliadau wrth ymyl y ffordd a dylid mynd â nhw i’r Canolfannau Ailgylchu Cymunedol.
Ewch i wefan Ailgylchu dros Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am ailgylchu