Rhybudd wrth i sgamwyr dargedu’r £500 o gymorth i ofalwyr di-dâl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 25 Mawrth 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog preswylwyr sy’n ofalwyr di-dâl i fod yn wyliadwrus o sgam newydd.
O fewn dyddiau ers cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod dros 57,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru am dderbyn taliad cymorth o £500, mae rhai preswylwyr wedi adrodd bod unigolion sy’n dynwared swyddogion y cyngor wedi cysylltu â hwy yn gofyn am fanylion banc cyfrinachol er mwyn prosesu’r taliad.
Sgam yw hyn – er nad yw manylion llawn y cynllun wedi’u cadarnhau hyd yma, mae’r taliad wedi’i dargedu at ofalwyr sydd eisoes yn hawlio Lwfans Gofalwr, ac mae’n rhaid i ofalwyr gofrestru er mwyn derbyn y taliad.
Ni ddylai neb, ar unrhyw gyfrif, ddatgelu eu manylion banc neu wybodaeth gyfrinachol arall i unrhyw un sy’n eu ffonio, yn anfon e-bost atynt neu’n eu galw’n ddigroeso gyda gofynion o’r fath.
Bwriad y taliad yw cydnabod y caledi ariannol ac emosiynol mae nifer o ofalwyr di-dâl wedi'i wynebu, ac mae ar gael ar gyfer unigolion sy’n derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022.
Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n gofalu am bartner, aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch neu anabledd. Telir Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gofalu am 35 awr neu fwy yr wythnos, sy’n gofalu am rywun sy’n derbyn budd-daliadau penodol, ac yn ennill £128 neu lai yr wythnos.
Mae’r taliad yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru ar ôl i arolwg o fwy na 1,500 o ofalwyr di-dâl ganfod bod rhaid i bron i hanner ohonynt ddefnyddio eu cynilion personol a rhoi’r gorau i weithio neu astudio, tra bod mwy na hanner wedi rhoi’r gorau i’w hobïau neu ddiddordebau personol oherwydd eu rôl gofalu.
Bwriad y taliad yw cefnogi gofalwyr di-dâl gyda’r cynnydd mewn costau byw a’r ffaith y bydd llawer yn gofalu am unigolion gydag anghenion cymhleth sydd angen cartrefi cynnes, offer meddygol arbenigol a bwyd penodol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion llawn ynglŷn â sut a phryd all gofalwyr di-dâl gofrestru am y taliad ychwanegol, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan iawn.