Rhybudd sgam twyll wrth i fusnes lleol golli £40,000 o nwyddau
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 17 Awst 2021
Mae busnesau’n cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o sgam twyll sy’n targedu cyflenwyr offer presennol a phosibl i sefydliadau fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Daw’r rhybudd wrth i fusnes lleol gael ei dwyllo o bron i £40,000 o nwyddau. Mae'r sgam yn gweithio yn y ffordd ganlynol:
- Bydd cyflenwr yn derbyn e-bost neu alwad ffôn yn gofyn am ddyfynbris ar gyfer eitemau penodol o offer. Gall y rhain fod mewn symiau mawr neu fach, ac o werthoedd isel neu uchel.
- Ar ôl cynnig dyfynbris, mae archeb brynu’n cael ei e-bostio i’r cyflenwr sy’n edrych fel archeb brynu ddilys gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn am y nwyddau ar archeb net 30 diwrnod.
- Mae’r archeb brynu fel arfer yn cynnwys cyfarwyddiadau danfon i gyfeiriad a all fod yn gysylltiedig â’r awdurdod lleol neu beidio.
- Ar ôl cludo’r eitemau o offer, nid yw’r cyflenwr yn derbyn taliad, ac yn methu ag ailfeddiannu’r cynnyrch a gludwyd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa busnesau bod pob e-bost gan yr awdurdod yn cael ei anfon o gyfeiriad e-bost ‘@bridgend.gov.uk’.
Os yw busnesau’n amau bod unrhyw gais am ddyfynbris neu archeb brynu ddilynol yn amheus, gallant gysylltu â procurementteam@bridgend.gov.uk i wirio.
Mae busnesau hefyd yn cael eu rhybuddio i beidio â ffonio unrhyw rifau sy’n cael eu cynnwys o fewn e-byst twyll sy’n honni eu bod yn rhifau sy’n berthnasol i’r awdurdod lleol, gan y gallant gynnwys ffioedd gwasanaeth drud.
Rydym yn annog pob busnes i fod yn wyliadwrus o negeseuon twyllodrus, ac i gymryd rhagofalon angenrheidiol fel nad ydynt yn dioddef o’r sgam hwn. Yn yr achos hwn, rydym yn ymwybodol o gwmni lleol sydd, yn anffodus, wedi colli swm sylweddol o arian.
Ni fyddai unrhyw gais dilys am archebion yn dod gan uwch gyfarwyddwyr na phrif weithredwyr, ac ni fyddai’r awdurdod lleol byth yn gofyn i nwyddau gael eu danfon i unrhyw le y tu allan i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae pob achos o weithgaredd twyllodrus hysbys sy’n cynnwys enw’r cyngor yn cael ei adrodd i Heddlu De Cymru ac Action Fraud.
Os ydych wedi derbyn unrhyw e-byst amheus, rydym yn gofyn i chi eu hanfon ymlaen at uwch ymchwilydd twyll y cyngor, Simon Roberts at Simon.Roberts@bridgend.gov.uk fel ein bod yn medru ychwanegu’r rhain at y ffeil dystiolaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Am ragor o awgrymiadau ynghylch sut i adnabod e-byst ac archebion prynu twyllodrus, ewch i wefan y cyngor.