Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rhybudd ar ôl i ddril a daflwyd i ffwrdd achosi tân ailgylchu

Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu rhybuddio i beidio â rhoi eitemau sy'n hynod fflamadwy gyda'u casgliadau ailgylchu neu fagiau bin wrth ymyl y ffordd.

Daw'r rhybudd yn dilyn tân bach mewn lori ailgylchu tra bod y criw ar ddyletswyddau casglu.

Tynnwyd sylw’r criw i’r tân gan sŵn popio uchel a llwyddasant i dynnu'r eitemau llosg o'r lori er mwyn rheoli'r fflamau nes i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyrraedd.

Ar ôl clirio'r difrod, canfuwyd mai banc pŵer wedi'i daflu i ffwrdd yn ogystal â phecyn batri a dril wedi’i bweru gan fatri oedd wedi achosi’r tân.

Ymdriniwyd â'r tân yn gyflym cyn iddo ddod yn fwy o broblem, ond gallai fod wedi'i osgoi'n gyfan gwbl pe na bai'r eitemau fflamadwy hyn wedi'u taflu i ffwrdd gyda gwastraff ailgylchu'r cartref.

Gall batris ac eitemau trydanol fod yn hynod beryglus os ydynt yn cael eu rhoi ag eitemau i’w hailgylchu. Gallant gael eu cywasgu, eu hollti, eu crebachu neu eu gwlychu gan hylifau. Pan fo hyn yn digwydd, gallant danio, gan achosi tanau sy’n peryglu bywydau, ac achosi difrod drud ac amharu ar wasanaethau gwastraff.

Mae batris hefyd yn beryg oherwydd maent yn cynnwys cemegau a deunyddiau a all niweidio’r amgylchedd os nad ydynt yn cael eu hailgylchu’n gyfrifol.

Dirprwy Arweinydd Hywel Williams

Mae modd ailgylchu a chasglu batris ac eitemau bach oddi ar ymyl y ffordd, ond rhaid eu cadw ar wahân i’ch gwastraff ailgylchu cartref cyffredin.                                       

Gellir gosod batris, hen ffonau symudol a sbectol mewn bag plastig clir, fel bag brechdanau, wrth ymyl gweddill eich nwyddau i’w hailgylchu.

Gellir ailgylchu tostwyr wedi torri, tegellau, haearn, sychwyr gwallt ac eitemau trydanol bach eraill drwy eu rhoi mewn bag siopa ar wahân wrth ymyl y ffordd. Nid yw unrhyw beth sydd â sgrin, fel gliniadur neu deledu, yn addas ar gyfer y casgliad hwn a dylid eu cludo i ganolfan ailgylchu gymunedol.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan y cyngor.

Nwyddau ailgylchu ar dân ar ôl i eitemau fflamadwy gael eu tanio yn y lori cywasgu
Credir mai pecyn pŵer a dril wedi’i gynnal gan fatris wedi achosi'r tân

Chwilio A i Y