Rhoi wynebau newydd ar ragor o ffyrdd prysur fel rhan o raglen uwchraddio gwerth £1.5m
Poster information
Posted on: Dydd Iau 13 Medi 2018
Bydd rhagor o'r ffyrdd sydd yn cael eu defnyddio fwyaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael wynebau newydd dros y misoedd nesaf fel rhan o raglen uwchraddio priffyrdd gwerth £1.5 miliwn.
Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn Ffordd yr Eglwys, Corneli, tra bydd y gwaith o roi wynebau newydd yn dechrau ar yr A4061 Aber Road / Stryd Ogwy yn Nant-y-moel ar ddechrau mis Hydref, yna'r A4093, Graig Terrace yn Blackmill.
Bydd modd i gerbydau deithio ar y ffyrdd yma o hyd tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Bydd ffyrdd eraill yn cael eu cau dros dro o ganlyniad i rywfaint o waith arall o ailosod wynebau newydd ar y ffyrdd. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd rhan o A48 Heol y Bont-faen ar gau dros nos rhwng cyffordd York Road ar gyfer Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr a chylchfan A48/A474 (Parc Plaza) rhwng canol nos a 6am o 17 Medi i 1 Hydref.
Bydd rhan o'r A48 rhwng cylchfan A48/A473 (ger Parc Plaza) a'r gyffordd â Heol Ystad Ddiwydiannol Waterton (ger cwmni gwerthu ceir Ford Pen-y-bont ar Ogwr) hefyd ar gau ar gyfer gwaith ailosod wynebau newydd ar y ffyrdd yn ystod rhai o'r un diwrnodau a'r un amseroedd.
Bydd y ffordd hefyd ar gau dros dro ar hyd Heol Ewenny B4265 o ffin ogleddol rhif 93 Heol Ewenny i gylchfan yr A48 yr Ewenny rhwng 7pm a hanner nos rhwng 30 Medi a 11 Hydref. Bydd llwybrau gwyro dros dro ar waith.
Bydd hefyd angen cau rhai heolydd dros dro ar gyfer rhoi wyneb newydd ar Heol Abercerdin, Evanstown cyn diwedd mis Hydref.
Mae wyneb newydd eisoes wedi'i rhoi ar ffyrdd allweddol eraill ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys B4181 Heol Llangrallo ger Bracla, pen uchaf yr A4061 Ffordd Mynydd y Bwlch, Brocastle Avenue ar Ystad Ddiwydiannol Waterton a chyffordd Stormy Lane ar yr A48.
Bydd y B4281 trwy Gefn Cribwr yn cael ei gwblhau ddydd Sul 16 Medi, gyda'r gwaith yn dod i ben erbyn 8pm yn dilyn sylwadau gan drigolion lleol a thrafodaethau gyda'r Gwasanaethau Rheoleiddio sydd wedi rhoi cyngor ynglŷn ag amseroedd gwaith.
Mae cyfanswm o dros ddwsin o'r ffyrdd sydd yn cael eu defnyddio fwyaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael wynebau newydd yn barod ar gyfer y gaeaf fel rhan o raglen uwchraddio priffyrdd gwerth £1.5 miliwn. Rydym wedi derbyn grant o £1.25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wneud y gwaith a byddwn hefyd yn cyfrannu £250,000 ein hunain.
Mae rhai ffyrdd wedi cael eu nodi fel rhai sydd angen wynebau newydd yn dilyn arolygon technegol a gafodd eu cynnal gydag offer profi radar neu atal sgidio, arolygon cyflwr ac asesiadau a gynhaliwyd gan arolygwyr priffyrdd, yn ogystal ag unrhyw bryderon a leisiwyd gan y cyhoedd a chynghorwyr ynglŷn â strydoedd lleol. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’r un nesaf, bydd cyfanswm o £4 miliwn yn cael ei wario ar roi wynebau newydd ar ffyrdd lleol. Bydd £400,000 pellach yn cael ei wario ar wella nifer o lwybrau troetffyrdd ledled y fwrdeistref sirol i fynd i'r afael â materion fel atgyweiriadau angenrheidiol a gwelliannau draenio.
Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir gan gau ffyrdd dros dro, ond gobeithio y bydd modurwyr yn gwerthfawrogi'r angen i gyflawni'r gwaith hwn. Unwaith y byddwn wedi rhoi wyneb newydd ar ffordd, dylai barhau am 20 i 30 mlynedd heb fod angen unrhyw waith atgyweirio mawr. Yr opsiwn arall yw cyweirio a thrwsio tyllau ar sail adweithiol, sy'n costio llawer mwy i'r trethdalwr yn y tymor hir ac sydd hefyd yn arwain at fwy o amharu yn sgil atgyweirio ad hoc heb ei gynllunio a goleuadau traffig dros dro.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y cyngor dros Gymunedau
Mae'r cyngor yn gosod arwyddion ffordd oddeutu pythefnos cyn i bob cynllun ddechrau i rybuddio modurwyr ymlaen llaw, tra ysgrifennir at breswylwyr sy'n byw gerllaw. Mae'r holl waith ail-wynebu wedi'i drefnu yn ddibynnol ar nifer o ffactorau megis y tywydd.