Rhoi gwybod i Crimestoppers am achosion o fridio cŵn bach anghyfreithlon
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 20 Mai 2022
Mae trigolion a busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i leisio eu pryder ynghylch bridio cŵn bach yn anghyfreithlon, a rhoi gwybod i Crimestoppers am achosion yn ddienw.
Mae’r elusen wedi uno â Safonau Masnach Cymru i gynnig gwasanaeth sy’n galluogi’r cyhoedd i gyflwyno gwybodaeth werthfawr yn ddienw, er mwyn helpu i fynd i’r afael ag achosion o fridio cŵn bach yn anghyfreithlon.
Dywedodd Judith Parry, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: “Rydym mor falch o fod yn gweithio â Crimestoppers a chynnig ffordd i’r cyhoedd adrodd am y troseddau hyn yn ddienw.
“Nid oes rhaid i fridwyr cŵn annhrwyddedig ddilyn y rheolau ac nid ydynt yn ddarostyngedig i archwiliadau llesiant gan yr awdurdod lleol – a gelwir busnesau o’r fath yn fridwyr anghyfreithlon neu ffermwyr cŵn bach.
"Mae hyn yn golygu bod gangiau troseddol wedyn yn cymryd mantais o gŵn er mwyn gwneud arian a gwyngalchu arian."
Mae sawl peth i gadw llygad allan amdano wrth ystyried bridwyr cŵn bach anghyfreithlon:
- Gallant fod yn cadw eu cŵn bach mewn amodau ofnadwy
- Efallai na fyddent yn sicrhau llesiant yr anifeiliaid
- Efallai na fydd eu cŵn a’u cŵn bach yn hoffi cymdeithasu
- Efallai y byddant yn gor-fridio eu cŵn
Fel awdurdod lleol, rydym yn cefnogi’r ymgyrch hon, a fydd yn helpu i fynd i’r afael ag achosion o fridio cŵn bach yn anghyfreithlon yng Nghymru, ac yn helpu i roi stop ar anifeiliaid yn dioddef yn ddistaw.
Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Os ydych chi'n poeni am achosion o fridio cŵn yn anghyfreithlon yn eich ardal chi, neu’n amau achos ohono, rhowch wybod i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555 111 neu ewch i wefan Crimestoppers a rhannwch y wybodaeth gyda nhw’n ddienw.