Rhoi cynnig ar lori ysbwriel drydan ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 21 Ionawr 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Kier, ei bartner gwastraff, wedi cyhoeddi y byddant yn arddangos lori ysbwriel drydan mewn diwrnod arddangos.
Bydd y lori, Dennis eCollect, yn cael ei harddangos yn y fwrdeistref sirol ddydd Mawrth i ddarparu gwybodaeth hollbwysig ar gyfer dewisiadau yn ymwneud â cherbydau Allyriadau Isel Iawn yn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol.
Mae Dennis Eagle yn dweud bod y cerbyd wedi cwblhau profion llym, yn cynnwys profion siambr hinsawdd mewn tymereddau yn amrywio o -10 i 41 gradd Selsiws, a phrawf gwytnwch cyflym i efelychu gwerth 10 mlynedd o ddefnydd mewn ychydig fisoedd.
Mae hefyd wedi cael ei asesu ar amrywiaeth o arwynebau ffordd gyda llethrau a thiroedd gwahanol mewn safleoedd profi arbenigol.
Drwy dreialu’r lori casglu ysbwriel drydan hon, cawn gyfle i asesu ffyrdd pellach fydd yn helpu ein taith at fod yn garbon-sero erbyn 2030.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd ein hagenda Sero Carbon 2030 o ddifrif, ac rydym yn parhau â chynlluniau i roi rhaglen ddatgarboneiddio arloesol, radical ar waith ar draws yr awdurdod lleol, a thrwy wneud hynny, datblygu cymorth cywir, gwyddonol a llym i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r uchelgais hwn.
Dirprwy Arweinydd, Hywel Williams
Fis Medi y llynedd, cyhoeddodd yr awdurdod lleol ei fod wedi cael dros £450,000 o arian i osod seilwaith gwefru cerbydau trydan.
Yn sgil y cyllid gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) Llywodraeth Cymru, bydd gorsafoedd gwefru yn cael eu gosod mewn mannau cyhoeddus, meysydd parcio a gweithleoedd ar draws y fwrdeistref sirol.
Nod y prosiect yw bodloni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwefru yng Nghymru, sef y bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydanol yng Nghymru yn hyderus eu bod yn medru cael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydanol pryd bynnag, a lle bynnag, maent ei angen erbyn 2025.
Yn ychwanegol, cafodd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyllid sylweddol ar gyfer gorsafoedd gwefru ar strydoedd a fflyd o dacsis trydan. Cafodd Pen-y-bont ar Ogwr chwe thacsi trydan y llynedd, oedd ar gael ar sail ‘profi cyn prynu’ ar gyfer gweithredwyr fflyd tacsis presennol.