Rhoi bagiau 'Diolch' am oes ym Maesteg
Poster information
Posted on: Dydd Iau 29 Gorffennaf 2021
Mae mil o fagiau 'Diolch' am ddim yn cael eu rhoi yng nghanol tref Maesteg gan fusnesau lleol i ddiolch i gwsmeriaid am siopa'n lleol.
Yn rhan o gydweithrediad rhwng Cymdeithas Fusnes Maesteg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r fenter yn rhan o ymgyrch ehangach i annog pobl i siopa'n lleol ac mae'n dilyn fideo Diwrnod Annibynwyr diweddar, a gomisiynwyd gan yr awdurdod lleol, wedi'i anelu at gefnogi a hyrwyddo manwerthwyr annibynnol.
Dywedodd Sue Dodge o Anturio Gifts ar Stryd Talbot: "Hoffai Cymdeithas Fusnes Maesteg annog pobl i barhau i siopa'n lleol ac mae'r bagiau siopa yn ffordd wych o ddiolch i'n cwsmeriaid a hyrwyddo canol y dref.
"Mae'r busnesau annibynnol yng nghanol tref Maesteg yn rhan fawr o'r gymuned leol, mae ein cwsmeriaid yn fwy na rhif i ni, rydym yn eu trin fel ffrindiau."
Ychwanegodd Tracy Priddy o Maesteg Shoe Repairs ar Stryd Talbot: "Rydym wedi bod yn masnachu ym Maesteg ers dros 20 mlynedd ac fel busnes lleol rydym yn angerddol iawn am annog pobl i siopa'n lleol yng nghanol ein tref."
Mae canol tref Maesteg yn cynnig profiad siopa cyfeillgar, traddodiadol gydag ymdeimlad cryf o gymuned. Yn ogystal ag ystod eang o fusnesau annibynnol unigryw, mae enwau cyfarwydd y stryd fawr yn cynnwys Peacocks, Argos, Iceland, Poundland a New Look.
Pleser yw gallu cyllido'r fenter hon i ddiolch i'r holl bobl hynny sy'n cefnogi eu siopau lleol ac annog pobl i barhau i wneud hynny.
Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio
Mae Cymdeithas Fusnes Maesteg yn cynnwys busnesau lleol sy'n cydweithio, mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a Chyngor Tref Maesteg i hyrwyddo canol y dref.