Rhestr wrth gefn ar gyfer y brechlyn ar gael i breswylwyr rhwng 40-49 oed
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 09 Ebrill 2021
Gall preswylwyr rhwng 40 a 49 oed sydd ar gael i fynychu apwyntiad brechu Covid-19 o fewn un awr, gofrestru ar gyfer rhestr wrth gefn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Gwelodd galw aruthrol a phroblemau technegol y ffurflen yn chwalu pan gafodd ei lansio am y tro cyntaf, ond mae bellach yn ôl ar ei thraed. Cyflwynodd nifer fawr o bobl eu manylion cyn i'r ffurflen chwalu, ond fe'ch gwahoddir chi i'w hailgyflwyno fel rhagofal.
Mae'r rhestr wedi cael ei sefydlu o ganlyniad i'r cynnydd bach yn y nifer o bobl sydd ddim yn troi i fyny i'r canolfannau brechu cymunedol a bydd yn caniatáu i'r bwrdd iechyd lenwi apwyntiadau sy'n cael eu canslo a pharhau i sicrhau nad oes yr un brechlyn yn cael ei wastraffu.
Ni fydd yn effeithio ar frechlynnau i breswylwyr yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9. Mae llythyrau i'r holl bobl yn y grwpiau hyn wedi cael eu hanfon bellach a dylent ddechrau cyrraedd yn fuan.
Ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg, mae mwy na 285,000 o frechlynnau wedi cael eu rhoi, yn cynnwys mwy na 85,000 o frechlynnau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae profi cymunedol yn parhau ar gael i breswylwyr 11 oed a hŷn nad oes ganddynt symptomau'r coronafeirws yng Nghanolfan Fywyd Cwm Ogwr.
Mae'r ganolfan cerdded i mewn ar gael tan ddydd Mawrth 13 Ebrill rhwng 9.30am-6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10am-4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Nid oes rhaid trefnu apwyntiad a gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn y fwrdeistref sirol gael prawf. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw un sy'n ymweld â'r ardal.
Gan ei bod yn bosibl i bobl sydd wedi cael eu brechu barhau i gario'r feirws, mae'r profion yn cynnwys preswylwyr a allai fod eisoes wedi cael prawf neu sydd wedi cael dos o'r brechlyn.
Byddwn yn annog pob preswylydd i fynychu eu hapwyntiad brechlyn pan gânt wahoddiad, ond os nad ydych yn gallu mynychu, rhowch wybod i'r bwrdd iechyd fel y gellir ei gynnig i rywun arall.
Mae'r brechlynnau yn ddiogel a byddwn yn eich annog i dderbyn brechlyn fel y gall pawb ohonom ddiogelu ein cymunedau.
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David
Rhybuddir trigolion i fod yn effro i negeseuon testun ac e-bost sgam sy'n cylchredeg ar hyn o bryd yn honni eu bod gan y GIG, gan eu gwahodd am frechlyn coronafeirws os ydynt yn cadarnhau eu hunaniaeth drwy nodi manylion banc.
Efallai y bydd y GIG yn eich gwahodd am frechlyn drwy neges destun ond ni fydd byth yn gofyn am fanylion banc. Mae'r sgamiau hyn yn soffistigedig ond gallant gael eu hosgoi - rhowch sylw manwl i unrhyw negeseuon testun neu e-bost a dderbyniwch. Gallwch anfon negeseuon testun amheus ymlaen i 7726 yn rhad ac am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ymuno â'r rhestr wrth gefn, os ydych yn gymwys, llenwch y ffurflen ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.